Grimsby 1–0 Wrecsam
Daeth rhediad da Wrecsam yn y Gynghrair Genedlaethol i ben wrth iddynt golli yn erbyn Grimsby ar Barc Blundell brynhawn Sadwrn.
Doedd y Dreigiau heb golli mewn naw gêm gynghrair ond roedd un gôl yn ddigon wrth i hynny newid yn Grimsby.
Craig Disley a oedd sgoriwr y gôl honno, yn rhwydo gydag ergyd gadarn wedi dim ond saith munud o chwarae.
Cafodd y Dreigiau ddigon o’r bêl wrth iddyn chwilio am gôl yn yr ail hanner ond prin oedd y cyfleoedd clir wrth i’r tîm cartref ddal eu gafael.
Mae Wrecsam yn aros yn wythfed yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol er gwaethaf y canlyniad, chwe phwynt o’r safleoedd ail gyfle gyda saith gêm yn weddill.
.
Grimsby
Tîm: McKeown, Tait, Gowling, Disley, Horwood, Nsiala, Arnold, Clay, Nolan, Amond (Bogle 80’), Hoban (Pearson 90’)
Gôl: Disley 7’
Cardiau Melyn: Tait 46’, Hoban 89’, Clay 90’
.
Wrecsam
Tîm: Taylor, Carrington (Vidal 65’), Smith, Fyfield, Newton, Hudson, Heslop, Evans (Beck 78’), Fowler (York 46’), Jennings, Jackson
Cerdyn Melyn: Jennings 45’
.
Torf: i ddilyn