Mae Chris Coleman eisoes wedi dweud y bydd Danny Ward yn ennill ei gap cyntaf yn un o gemau cyfeillgar Cymru dros benwythnos y Pasg (llun: Nick Potts/PA)
Fe fydd Danny Ward yn dilyn yn ôl traed rhai o bêl-droedwyr mwyaf nodedig gogledd Cymru pan mae’n ennill ei gap cyntaf yr wythnos hon.
Mae disgwyl i’r golwr 22 oed gael ei ddewis yn nhîm Cymru i wynebu Gogledd Iwerddon yng Nghaerdydd heno, gyda’r rheolwr Chris Coleman eisoes wedi dweud y bydd yn cael gêm.
Ward fydd y diweddaraf o gyn-ddisgyblion Ysgol Penarlâg i chwarae pêl-droed rhyngwladol, rhestr sydd yn cynnwys Gary Speed ac Andy Dorman dros Gymru yn ogystal â Michael Owen dros Loegr.
Er nad yw wedi ennill ei gap cyntaf eto mae Ward wedi bod ym mhob carfan yn ystod yr ymgyrch ragbrofol, ac yn debygol iawn o fod yn y garfan fydd yn mynd i Ewro 2016.
Ac er mor “ffantastig” fydd y foment i chwaraewr Lerpwl pan ddaw hi, dydi o ddim eisiau i hynny fod yn binacl ar ei gyfnod gyda Chymru.
“Fe fydd e’n foment balch, ond ‘dych chi ddim eisiau setlo am hynny, rydych chi eisiau ceisio ennill cymaint o gapiau â phosib,” meddai’r golwr.
Aeddfedu yn Aberdeen
Ar ôl serennu yn ystod cyfnod ar fenthyg yn Aberdeen yn gynharach eleni mae Ward bellach nôl yn Lerpwl, ble mae’n ail ddewis i Simon Mignolet yn y gôl.
“Roeddwn i a phobol yn y clwb yn teimlo bod angen [mynd ar fenthyg],” cyfaddefodd cyn-chwaraewr Wrecsam.
“Doeddwn i heb chwarae lot o bêl-droed tîm cyntaf cyn y tymor yma, ac mae’n rhywbeth dw i’n teimlo dw i ‘di elwa ohono ers i mi ddod nôl.”
Mae’n amlwg fod ganddo uchelgais ar lefel clwb hefyd, gan ddweud ei fod eisiau’r crys rhif un yn Lerpwl “mor fuan â phosib” a bod ei gyfnod yn yr Alban wedi helpu yn hynny o beth.
“Mae’n rhoi’r profiad yna chi o chwarae o flaen torf o dan bwysau, sydd yn rhywbeth roeddwn i angen. ‘Dych chi’n datblygu ac aeddfedu wrth chwarae mewn sefyllfaoedd fel hynny,” meddai.
Canmoliaeth Mr Phillips
Yn Golwg yr wythnos hon fe fu cyn-athro Addysg Gorfforol Danny Ward, Sion Phillips, yn siarad am ddatblygiad cynnar y golwr a pha mor falch ydoedd o lwyddiant y chwaraewr.
Fe gyfaddefodd Ward nad oedd wedi meddwl gormod am ychwanegu’i enw at restr yr ysgol o bêl-droedwyr nodedig eto, ond y byddai’r amser yn dod i werthfawrogi hynny ar ôl y gêm.
“Pan mae’n dod at ymarfer yn y gwersylloedd yma ‘dych chi jyst yn cadw’ch pen i lawr, gweithio’n galed a pharhau i wneud y pethau iawn,” meddai wrth golwg360.
“Ond os yw Hawarden High a Mr Phillips yn falch ohono’i fe fydd hynny’n deimlad braf.”
Stori: Iolo Cheung