Mae breuddwyd Ewropeaidd tîm pêl-droed y Seintiau Newydd yn dal yn fyw, er iddyn nhw golli o 2-0 yn erbyn Panathinaikos o Roeg yng Nghynghrair Cyngres UEFA neithiwr (nos Iau, Rhagfyr 12).
Chwarter awr yn unig gymerodd hi i’r ymwelwyr fynd ar y blaen, wrth i’r golwr Connor Roberts wneud arbediad, cyn i Filip Đuričić rwydo ar yr ail gynnig y tu fewn i’r cwrt cosbi.
Daeth y Seintiau Newydd o fewn trwch blewyn i unioni’r sgôr funudau’n ddiweddarach, wrth i Jordan Williams a Ben Clark gyfuno cyn i’r bêl fynd heibio’r postyn.
Wrth bwyso am eu gôl gyntaf, daeth Josh Daniels yn agos cyn i’w beniad gael ei arbed gan Bartłomiej Drągowski.
Daeth cyfleoedd hwyr i’r Groegiaid yn yr hanner cyntaf, wrth i beniad Willian Arão fynd dros y trawst, cyn i Sverrir Ingason ergydio o’r chwith, ac fe wnaeth Tasos Bakasetas orfodi arbediad gan Roberts cyn y chwiban hefyd.
Ail hanner
Yr ymwelwyr oedd ar y droed flaen yn gynnar yn yr ail hanner hefyd.
Dim ond amddiffyn gwych gan Josh Daniels wnaeth atal Giorgos Vagiannidis rhag dyblu mantais Panathinaikos.
Ond daeth eu hail gôl yn fuan wedyn, wrth i Fotis Ioannidis sgorio o’r smotyn yn dilyn trosedd yn y cwrt cosbi.
Bu bron i’r Seintiau Newydd haneru mantais eu gwrthwynebwyr wrth i ergyd Ben Clark daro’r golwr.
Roedd yn rhaid i’r tîm Cymreig aros yn effro yn ystod chwarter ola’r gêm, wrth i Daniel Mancini daro ergyd bwerus at Roberts, ac fe gawson nhw gyfle hwyr gyda chic rydd, ond roedd yn ofer.