Mae’n bosib na fydd Joe Allen ar gael i dîm pêl-droed Abertawe dros y Nadolig, oherwydd anaf i gyhyr yn ei goes.
Doedd e ddim ar gael ar gyfer y gêm oddi cartref yn Plymouth neithiwr (nos Fawrth, Rhagfyr 10), wrth i’r Elyrch ennill o 2-1.
Cafodd e’r anaf yn y gêm yn Luton dros y penwythnos.
Yn ôl y rheolwr Luke Williams, bydd y chwaraewr canol cae allan am “gyfnod byr”.
Ar ôl y gêm yn erbyn Sunderland yr wythnos hon, byddan nhw’n herio Hull ar Ragfyr 21 cyn wynebu QPR a Luton dros y Nadolig.
Byddan nhw’n teithio i Portsmouth ar Ddydd Calan, cyn wynebu West Brom yn Stadiwm Swansea.com ar Ionawr 4.