Mae nifer o ferched o Swydd Gaerloyw wedi cael lle yn Academi Clwb Criced Morgannwg o ganlyniad i bartneriaeth rhwng y ddwy sir.

Wrth i Forgannwg edrych ymlaen at statws Haen 1 cystadleuaeth newydd sbon yn 2027, mae’r bartneriaeth yn rhoi’r cyfle i ferched y naill ochr a’r llall i Bont Hafren gael meithrin eu sgiliau mewn academi o’r radd flaenaf.

Yr Academi yw’r cam cyntaf ar gyfer merched sydd eisiau dilyn gyrfa fel cricedwyr proffesiynol.

Y rhai sydd wedi’u dewis ar gyfer yr Academi yw Becca Halliday, Emily Geach, Prarthana Reddy, Liv Daniels a Bea Ellis.

Yn sgil y bartneriaeth, bydd un o sesiynau ymarfer wythnosol yr Academi yn cael ei chynnal ym Mryste, a bydd hyfforddwyr Swydd Gaerloyw hefyd yn chwarae rhan yn natblygiad y chwaraewyr wrth i’r siroedd gydweithio’n rhanbarthol.

Yn ôl Clwb Criced Swydd Gaerloyw, mae’r bartneriaeth yn “ddechrau oes newydd arbennig i griced menywod yn ein rhanbarth”, ac maen nhw’n diolch i Aimee Rees, Pennaeth Criced Menywod a Merched Clwb Criced Morgannwg.

“Mae ei hymroddiad i dwf gêm y menywod wedi bod yn allweddol, ac mae’r ymdrechion hyn ar y cyd yn dyst i’n gweledigaeth ar y cyd i ddatblygu doniau’r menywod,” meddai Laura Charles-Price, Pennaeth Llwybrau Talent Clwb Criced Swydd Gaerloyw.

Dywed Aimee Rees fod Morgannwg “yn eithriadol o falch o gael cydweithio’n agos â Swydd Gaerloyw i ddatblygu cyfleoedd i gricedwyr benywaidd ifainc”.

“Mae’r cydweithio hwn yn adlewyrchu ymrwymiad y ddwy sir i gynnig amgylchfyd perfformaid uchel, lle gall chwaraewyr ddatblygu eu sgiliau ac adeiladu gyrfa mewn criced proffesiynol,” meddai.

“Rydym yn edrych ymlaen at y daith sydd o’n blaenau, ac at wylio’r garfan dalentog hon o chwaraewyr yn tyfu a llwyddo.”