Roedd hi’n ddiwrnod gwych o bêl-droed ar Goedlan y Parc ddydd Sul, Mehefin 9, wrth i Sêr Aber gynnal twrnamaint Pob Anabledd.
Wrth groesawu timau o Rydaman, Abergwaun, Hwlffordd, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr, dyma oedd gan Peter Williams, capten y Sêr, i’w ddweud ar wefan Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth:
“Rwy’n gobeithio am bethau mawr yn ein twrnament. Ni angen chwarae’n dda. Hoffwn i weld torf fawr. Rwy’n disgwyl pawb i weithio’n galed a mwynhau.Teulu yw’r peth pwysicaf. Teulu pêl-droed ar y cae a teulu fi bant o’r cae.”
Roedd torf fawr wedi dod i wylio a chafwyd diwrnod cofiadwy o bêl-droed, ac fel y llynedd roedd yr haul yn tywynnu.
Yn y rhaglen roedd portread o Derfel Reynolds, sydd wedi bod yn chwarae pêl-droed anabledd ers 2005 ac sy’n fab i’r rheolwr Eirian Reynolds. Dyma oedd ganddo i’w ddweud:
“Rwy wedi cael sawl profiad cyffrous wrth chwarae pêl-droed. Yn 2006 a 2007, ces gyfle i fynd am dreial ym Mhrifysgol Warwick gyda Mencap, fel rhan o dîm Cymru a Lloegr. Ces fy newis i fynd i Genefa yn y Swistir. Yn 2006, wnaethom ni orffen yn drydydd ond yn 2007 cyrhaeddom ni’r rownd derfynol. Sgories gôl yn y ffeinal a ni enillodd! Yn 2010, ces gyfle eto i fynd i Genefa – y tro hwn i chwarae dros Gymru! Achlysur arbennig iawn oedd hynny!
Rwy wrth fy modd yn chwarae pêl-droed. Mae’n gyfle cymdeithasu gyda pobl eraill sy’n caru’r gem a gwella sgiliau. Rwy’n gwerthfawrogi medru bod yn rhan o un o dimau ClwbPel-droed Aberystwyth. Mae pêl-droed anabledd yn rhan bwysig o ddiwylliant pêl-droed.”
Mae’r pwyslais ar Glwb Pêl-droed Tref Aberystwyth fel clwb yn hytrach nag un tîm yn bwysig, gyda Sêr Aber yn amlwg yn y rhaglen sy’n cael ei pharatoi ar gyfer pob gêm sy’n cael ei chwarae yn y Cymru Premier. Bydd Catherine Elan Taylor, sydd â’i mab Llew yn chwarae i’r Sêr, yn paratoi adroddiadau cyson am y tîm, a hefyd yn llunio portreadau o’r chwaraewyr fel bod y cefnogwyr yn dod i’w hadnabod yn well.
Cafwyd gwledd o bêl-droed, a phawb y cytuno bod y diwrnod wedi bod yn un cofiadwy o hwyl, cystadlu a gwneud ffrindiau newydd. Roedd Eirian Reynolds, rheolwr Sêr Aber yn werthfawrogol iawn:
“Diolch i bawb gynorthwyodd gyda threfniadau’r twrnamaint ac i hyfforddwyr y timoedd a gymerodd rhan. Roedd popeth wedi adeiladu tuag at ddiwrnod llwyddiannus tu hwnt.”
Ar ddiwedd y dydd, cafodd crys y diweddar Meilir Llwyd, un o gyn-chwaraewyr Sêr Aber, ei gyflwyno i’r clwb – crys wedi ei arwyddo gan Ryan Giggs – er mwyn ei roi ar wal Lolfa John Charles y Clwb. Bydd yn sicrhau cyfle i hel atgofion am Mei, ond hefyd i bwysleisio mai un clwb yw Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth!