Mae tîm criced Morgannwg wedi cael crasfa gan Surrey ar yr Oval yn y Vitality Blast, y gystadleuaeth ugain pelawd.

Dim ond 107 am naw sgoriodd y sir Gymreig yn eu hugain pelawd, wrth i Gus Atkinson a Sean Abbott gipio tair wiced yr un.

Dim ond naw pelawd gymerodd hi i’r Saeson gyrraedd y nod, wrth i Dom Sibley daro 44 heb fod allan, a Laurie Evans 31 heb fod allan, gyda Surrey yn fuddugol o naw wiced.

Mae’r canlyniad yn gadael Morgannwg yn seithfed yn y tabl, bum pwynt islaw’r pedwerydd safle hollbwysig.