Dave Edwards (chwith bellaf) yn gobeithio bod yn rhan o'r garfan fydd yn mynd i Ffrainc (llun: CBDC)
Mae Dave Edwards yn dweud ei fod yn gweithio mor galed â phosib er mwyn gwella o anaf i’w droed mewn pryd i fynd gyda Chymru i Ewro 2016.

Roedd chwaraewr canol cae Wolves yn aelod cyson o’r garfan yn ystod yr ymgyrch ragbrofol lwyddiannus, gan chwarae ym mhump o’r gemau a bod yn eilydd ar gyfer dwy arall.

Ar ôl torri asgwrn metatarsal yn ei droed fis diwethaf fodd bynnag mae’n wynebu ras yn erbyn y cloc i fod yn ffit erbyn i Chris Coleman ddewis pwy fydd yn cael lle ar yr awyren i Ffrainc.

Ond mae’n dweud y byddai’r holl waith caled i geisio gwella mewn pryd “ei werth o ganwaith drosodd” os yw’n golygu ei fod yn cael gwireddu breuddwyd oes a mynd i’r Ewros.

Cyfle olaf?

Ag yntau bellach yn 30 oed, fe gyfaddefodd Dave Edwards mewn neges flog bod ei siawns o chwarae dros ei wlad mewn twrnament rhyngwladol yn gostwng bellach.

Mae hynny wedi’i wneud yn fwy penderfynol nag erioed i wneud yn siŵr nad yw’r cyfle i fynd eleni yn llithro o’i afael.

“Dw i bellach yn 30 oed, yn ymladd yn galed i fod nôl yn chwarae dros Wolves erbyn diwedd y tymor,” meddai Edwards.

“Ond dw i hefyd yn brwydro’n galed i wireddu breuddwyd oes bêl-droed wrth gael y posibilrwydd o gael fy newis i Gymru ar gyfer Ewro 2016.”

‘Grŵp arbennig’

Mynnodd y bydd yn gweithio mor galed â phosib er mwyn bod yn y garfan, ond y byddai gan gyhoedd Cymru dîm i fod yn falch ohoni pwy bynnag oedd yn cael eu dewis.

“Mae’n freuddwyd i mi fy mod i wedi bod yn rhan o’r ymgyrch a chwarae cymaint,” meddai Edwards.

“Mae’r awyrgylch yn y garfan wastad yn wych, dydw i erioed wedi gweld cymaint o angerdd i’r graddau bod chwaraewyr a staff yn gwneud popeth allan nhw i beidio â siomi unrhyw un.

“Felly os ydw i yn y garfan fydd yn mynd i Ffrainc neu beidio, dylai cefnogwyr Cymru wybod eich bod chi’n gwylio grŵp arbennig o chwaraewyr sydd yn gwisgo’r ddraig yn falch ar eu crysau.”