Aaron Ramsey yn herio Caerlŷr ddydd Sul (llun: Adam Davy/PA)
Roedd Aaron Ramsey yn lwcus i osgoi anaf cas iawn ddydd Sul yn dilyn tacl flêr gan Danny Drinkwater wrth i Arsenal drechu Caerlŷr ac Andy King o 2-1 i gau’r bwlch ar y brig.
Hedfanodd Drinkwater i mewn i’r dacl a chlecio Ramsey, a phetai coes y Cymro wedi bod ychydig yn fwy cadarn i’r llawr ar y pryd fe fyddai wedi’i thorri ac yn sicr o fod wedi methu Ewro 2016.
Yn ffodus chafodd o ddim ei anafu, ond roedd yn amlwg wedi’i gythruddo a hynny’n ddealladwy o gofio ei fod eisoes wedi torri’i goes mewn tacl debyg yn gynharach yn ei yrfa.
Un arall o’r Cymry fu’n dathlu buddugoliaeth o 2-1 i fynd â’i dîm o fewn dau bwynt i Gaerlŷr ar frig yr Uwch Gynghrair oedd Ben Davies.
Gwylio o’r fainc oedd o fodd bynnag wrth i Spurs gipio buddugoliaeth annisgwyl i ffwrdd o gartref ym Man City, canlyniad sydd yn eu cadw nhw yn y ras ar gyfer y bencampwriaeth.
Doedd hi ddim yn brynhawn amddiffynnol gwych i Ashley Williams a Neil Taylor wrth i Abertawe golli 1-0 i Southampton, na chwaith i James Collins wrth iddi orffen yn 2-2 rhwng Norwich a West Ham.
Collodd Crystal Palace o 2-1 yn erbyn Watford gyda Joe Ledley yn absennol ond Wayne Hennessey yn y gôl, ac fe chwaraeodd James Chester 90 munud wrth i West Brom gadw llechen lân a churo Everton o 1-0.
Roedd Adam Matthews nôl ymysg eilyddion Sunderland ar ôl gwella o anaf wrth i’r Black Cats gipio tri phwynt gwerthfawr yn erbyn Man United, ond doedd Paul Dummett ddim nôl i Newcastle wrth iddyn nhw gael cweir o 5-1 gan Chelsea.
Ac ar y fainc eto oedd Danny Ward wrth i Lerpwl, fydd heb Joe Allen am fis oherwydd anaf i linyn y gâr, drechu Aston Villa o 6-0.
Tacl Danny Drinkwater ar Aaron Ramsey:
Danny Drinkwater Horror Tackle on Aaron Ramsey! by wittyfutty
Y Bencampwriaeth
Yn y Bencampwriaeth, fe chwaraeodd Tom Lawrence a Morgan Fox gemau llawn wrth i’r ornest rhwng Charlton a Chaerdydd orffen yn ddi-sgôr.
Di-sgôr oedd hi hefyd rhwng Reading a Burnley wrth i Chris Gunter, Hal Robson-Kanu a Sam Vokes gael 90 munud yr un.
Cafodd David Vaughan a Joel Lynch 90 munud yr un hefyd wrth i Huddersfield ennill 2-0 oddi cartref yn Nottingham Forest.
Daeth David Cotterill ymlaen fel eilydd i Birmingham yn eu gêm di-sgôr nhw â Rotherham, tra bod Joe Walsh wedi dechrau a Jonny Williams wedi aros ar y fainc wrth i MK Dons drechu Derbyn o 1-0.
Lle ar y fainc yn unig i’w clybiau oedd i Jazz Richards, Adam Henley, Lewis Price ac Andrew Crofts hefyd.
Ac yng Nghynghrair Un fe sgoriodd Tom Bradshaw gic o’r smotyn ond doedd hynny ddim yn ddigon i gadw Walsall yn y ddau safle uchaf wrth iddi orffen yn gyfartal 1-1 rhyngddyn nhw a Crewe.
‘Beth am Gareth Bale’ meddai ambell un ohonoch chi o bosib? Dal ddim nôl o anaf, yn ôl Real Madrid, gyda’r rheolwr Zinedine Zidane yn dweud na fydd o’n ei ruthro nôl.
Seren yr wythnos – Aaron Ramsey. Nid ei orau o bell ffordd, ond gêm dda arall iddo wrth i Arsenal sicrhau buddugoliaeth hollbwysig yn y ras am y gynghrair.
Siom yr wythnos – Andy King. Ymlaen fel eilydd hwyr i geisio amddiffyn pwynt Caerlŷr, ond gweld ei dîm yn ei daflu ymaith gyda chic (wel, peniad) olaf y gêm.