Ai tîm Aaron Ramsey fydd yn cael eu gafael ar yr Uwch Gynghrair ym mis Mai? (llun: John Walton/PA)
Mae’n edrych yn debycach fyth y gallai un ai Andy King, Ben Davies neu Aaron Ramsey gael eu gafael ar fedal enillydd yr Uwch Gynghrair cyn diwedd y tymor os ydi pethau’n parhau fel ag y maen nhw.
Gwylio o’r fainc oedd King fodd bynnag wrth i Gaerlŷr sicrhau eu buddugoliaeth bwysicaf eleni, gan drechu Man City oddi cartref o 3-1 i symud ymhellach ar y blaen yn yr Uwch Gynghrair.
Caeodd Spurs y bwlch yn ôl i bum pwynt yn hwyrach yn y dydd, gyda Davies yn amlwg iawn yn eu chwarae ymosodol nhw wrth iddyn nhw drechu Watford o 1-0.
Disgleiriodd Ramsey i Arsenal hefyd gan chwarae rhan yn eu dwy gôl wrth iddyn nhw drechu Bournemouth o 2-0 i aros yn hafal â Spurs a phum pwynt y tu ôl i Gaerlŷr ar y brig.
Dechreuodd Joe Allen gêm brin yn y gynghrair i Lerpwl ond cafodd ei eilyddio ar yr egwyl gyda’r sgôr yn 0-0 yn eu gornest yn erbyn Sunderland ar ôl cael anaf i linyn y gâr.
Gorffennodd y gêm yn 2-2 ar ôl i Lerpwl fod 2-0 ar y blaen, gyda golwr y cochion Simon Mignolet ar fai am un o’r goliau ar ôl gadael i gic rydd lithro o’i afael.
Roedd un o amddiffynwyr Cymru ar y cae wrth i Newcastle guro West Brom o 1-0, ond nid Paul Dummett oedd hwnnw gan fod cefnwr chwith y Magpies wedi’i anafu.
Yn hytrach fe gafodd James Chester 90 munud prin yn nhîm y Baggies, gan gasglu cerdyn melyn am ei drafferthion wrth i ymosodwyr Newcastle ei gadw’n brysur drwy’r prynhawn.
Chwaraeodd Ashley Williams a Neil Taylor gemau llawn i Abertawe unwaith eto wrth i’r gêm rhwng yr Elyrch a Crystal Palace orffen yn 1-1.
Roedd Wayne Hennessey yn y gôl unwaith eto i Palace, gan ildio cic rydd Gylfi Sigurdsson yn y munudau cyntaf ond yna arbed un arall yn wych yn hwyrach yn y gêm.
Ac fe gafodd James Collins 90 munud arall i West Ham wrth iddyn nhw golli o 1-0 yn Southampton.
Y Bencampwriaeth
Cododd Burnley i’r trydydd safle yn y Bencampwriaeth wedi i Sam Vokes sgorio unig gôl y gêm i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Hull, sydd ar y brig.
Roedd digon i Gymry i’w gweld yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i’r Adar Gleision herio MK Dons – ond roedd mwy ohonyn nhw yn nhîm yr ymwelwyr na’r tîm cartref.
Fe darodd Tom Lawrence y postyn ar ei ymddangosiad cyntaf i Gaerdydd, tra bod Jonny Williams a Joe Walsh hefyd wedi dechrau dros MK Dons mewn gêm a orffennodd yn ddi-sgôr.
Chwaraeodd David Vaughan gêm lawn wrth i Nottingham Forest drechu Leeds o 1-0, ond fe wyrodd y bêl oddi ar Joel Lynch ac i’w rwyd ei hun wrth i Huddersfield golli 2-1 i Preston.
Cafodd Chris Gunter a Hal Robson-Kanu gemau llawn wrth i’r ornest rhwng Reading a Wolves orffen yn ddi-sgôr.
Gwylio o’r fainc wnaeth Wes Burns wrth i Bristol City gipio buddugoliaeth o 1-0 i ffwrdd yn erbyn Morgan Fox a Charlton.
Ac fe ddaeth Lewis Price oddi ar y fainc fel eilydd ar ôl 13 munud wrth i Sheffield Wednesday godi nôl i’r chwe safle uchaf gyda buddugoliaeth yn erbyn Birmingham.
Yn yr Alban fe chwaraeodd Owain Fôn Williams gêm lawn i Inverness wrth iddyn nhw ennill o 2-1 ym mhumed rownd Cwpan yr Alban yn erbyn Motherwell.
Ac yn gynharach yn yr wythnos roedd Simon Church wedi sgorio yn ei gêm gyntaf dros Aberdeen wrth i’w dîm o ac Ash Taylor guro Celtic o 2-1 er mwyn cau’r bwlch ar frig y gynghrair i dri phwynt.
Seren yr wythnos – Aaron Ramsey. Rhedeg pethau o ganol cae a dangos ei ddawn greadigol eto wrth i Arsenal droi cornel.
Siom yr wythnos – Joe Allen. Dechrau gêm dros Lerpwl yn y gynghrair o’r diwedd, dim ond i ymuno â Joe Ledley ac Emyr Huws fel Cymry canol cae eraill sydd nawr ag anaf.