Mae ymddiswyddiad Gemma Grainger, rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru, wedi cael ei ddisgrifio fel “newyddion enfawr” gan y gohebydd Sioned Dafydd.
Daeth cadarnhad o’r newyddion neithiwr (nos Fercher, Ionawr 10), wrth iddi ddod i’r amlwg fod Grainger wedi’i phenodi’n rheolwr tîm merched Norwy, sydd wedi ennill Cwpan y Byd a’r Ewros yn y gorffennol.
Cafodd ei phenodi’n rheolwr ar Gymru yn 2021, gan fynd â’r tîm o fewn trwch blewyn i gyrraedd Cwpan y Byd y llynedd, gan golli allan ar yr unfed awr ar ddeg yn y gemau ail gyfle yn erbyn y Swistir.
Yn ystod ei chyfnod wrth y llyw, fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru dorri’r record am y dorf fwyaf ar gyfer gêm Cymru, gyda 15,200 o bobol yn gwylio’r fuddugoliaeth dros Bosnia a Herzegovina yng Nghaerdydd yn rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd.
Daeth ei gêm olaf wrth y llyw yn erbyn yr Almaen, sef gêm ddi-sgôr yn Abertawe fis diwethaf.
‘Yr amgylchfyd gorau posib’
Dywed Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, fod Gemma Grainger “wedi gweithio’n eithriadol o galed… i greu’r amgylchfyd gorau posib” i’r tîm.
Dywed fod y tîm wedi datblygu’n dda o dan ei rheolaeth, ac y bydd yna gyfnod recriwtio “ar gyfer rheolwr newydd fydd yn rhoi’r cyfle gorau posib i ni gymhwyso ar gyfer Ewro 2025 UEFA a Chwpan y Byd FIFA 2027”.
Mewn datganiad, dywed Gemma Grainger ei bod hi wedi rhoi ei “chalon ac enaid” i’r swydd, a’i bod hi’n “ddiolchgar” am y “fraint ac anrhydedd” o gael rheoli’r tîm.
“Doedd gen i ddim bwriad i adael Cymru, ond dw i wedi cael cynnig cyfle annisgwyl allwn i ddim ei wrthod, ac fe fu’n eithriadol o anodd i fi gyrraedd y fan yma,” meddai.
“Gobeithio eich bod chi’n gwybod nad yw’r penderfyniad wedi’i wneud yn ysgafn.
“Dw i wir yn credu bod y tîm hwn yn barod i gymryd y camau nesaf a chymhwyso.
“Dw i’n hyderus y gall y tîm barhau i adeiladu a thyfu o’r pwynt yma ymlaen.
“Bydd gan Gymru le yn fy nghalon am byth. Diolch am bopeth.”
‘Waw! Am gyfle iddi’
“Newyddion enfawr,” meddai Sioned Dafydd, gohebydd Sgorio ar S4C.
“Mae Gemma Grainger wedi camu o’i swydd yn rheolwr Cymru, a bydd hi’n dod yn Brif Hyfforddwr Tîm Cenedlaethol Norwy, cyn-bencampwyr Cwpan y Byd FIFA ac Ewros UEFA.
“Waw! Am gyfle iddi.”