Mae Clwb Pêl-droed y Bala wedi denu Keelan Williams, amddiffynnwr 20 oed, o Glwb Pêl-droed Burnley.
Mae’n frawd i’r chwaraewr rhyngwladol Neco Williams, ac fe fu’r chwaraewr ifanc o Wrecsam yn chwarae i dîm Academi Burnley ar ôl chwarae i Academi Lerpwl hyd at 16 oed.
Cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer rowndiau rhagbrofol yr Ewros dan 19 yn 2022, gan chwarae yn erbyn Georgia a Norwy.
Bu’n gapten ar ei wlad yn erbyn Lloegr dan 18 yn 2021.