Braintree 1–0 Wrecsam                                                                   

Roedd un gôl yn ddigon i Braintree wrth i Wrecsam golli ar Ffordd Cressing yn y Gynghrair Genedlaethol nos Fawrth.

Sgoriodd Taylor Miles unig gôl y gêm chwarter awr o ddiwedd y naw deg wrth i’r Dreigiau golli am y pumed tro mewn chwech gêm gynghrair.

Wrecsam a gafodd y gorau o’r meddiant ond y tîm cartref a greodd y cyfleoedd gorau felly doedd fawr o syndod pan rwydodd Miles gyda chic rydd gelfydd.

Cafodd Mark Carrington gerdyn melyn yn y digwyddiad arweiniodd at y gic rydd honno a derbyniodd ail ychydig funudau’n ddiweddarach a chael ei anfon oddi ar y cae.

Wrecsam yn gorffen y gêm gyda deg dyn felly ac yn aros yn ddegfed yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol.

.

Braintree

Tîm: Crowe, Clerima, Phillips, Davis (Isaac 82’), Habergham, Fry, Paine, Woodyard, Akinola, Anderson (Miles 73’), Cheek (Marks 62’)

Gôl: Miles 74’

Cerdyn Melyn: Cheek 31’, Paine 45’, Fry 50’

.

Wrecsam

Tîm: Taylor, Carrington, Smith, Heslop, Newton, Fyfield, Evans, Jennings, York, Beck (Hudson 83’), Jackson (Briscoe 77’)

Cardiau Melyn: Heslop 64’, Carrington 73’, 82’

Cerdyn Coch: Carrington 82’

.

Torf: 484