Leyton Orient 1–0 Casnewydd                                                      

Ildiodd Casnewydd gôl hwyr wrth iddynt golli eu gêm Ail Adran yn erbyn Leyton Orient ar Ffordd Brisbane nos Fawrth.

Sgoriodd Jay Simpson unig gôl y gêm o’r smotyn bum munud o ddiwedd y naw deg.

Prin oedd y cyfleoedd yn y ddau ben mewn gêm gymharol ddiflas. Conor Wilkinson a ddaeth agosaf i Gasnewydd pan grafodd ei ergyd y trawst.

Daeth rheolwr chwaraewr newydd Orient, Kevin Nolan, ymlaen gydag ychydig dros ddeg munud i fynd a’i groesiad ef arewiniodd at y gic o’r smotyn dyngedfennol. Cafodd Jobi McAnuff ei lorio gan Darren Jones a sgoriodd Simpson o’r smotyn.

Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd yn ugeinfed yn nhabl yr Ail Adran.

.

Leyton Orient

Tîm: Cisak, Clohessy, Baudry, Essam, Shaw, Atangana, Payne, Jahraldo-Martin (Nolan 79’), Simon (Pritchard 90’), McAnuff, Palmer (Gnanduillet 68’)

Gôl: Simpson 85’

Cardiau Melyn: Clohessy 40’, Jahraldo-Martin 66’, Cisak 90’

.

Casnewydd

Tîm: Beeney, Holmes, Jones, Hughes, Davies, Rodman, Byrne, Smalley, Klukowski (Ayina 54’), Elito, Wilkinson (Boden 77’)

Cardiau Melyn: Klukowski 20’, Byrne 58’, Elito 85’

.

Torf: 4,209