A fydd Chris Coleman yn mynd a'i garfan i Kiev? (llun: CBDC)
Mae Cymdeithas Bêl-droed yr Wcráin yn dweud y byddan nhw’n chwarae yn erbyn Cymru mewn gêm gyfeillgar ym mis Mawrth.
Yn dilyn wythnosau o sïon fod y ddau dîm am wynebu’i gilydd, dywedodd gwefan y gymdeithas heddiw y byddai’r gêm yn cael ei chwarae yn yr Wcrain nos Lun 28 Mawrth, heb ddweud ble fyddai’r lleoliad.
Dyw Cymdeithas Bêl-droed Cymru heb gadarnhau’r newyddion eto fodd bynnag.
Mae cefnogwyr hefyd dal yn disgwyl i weld a fydd Cymru’n herio Gogledd Iwerddon mewn gêm gyfeillgar nos Iau 24 Mawrth, yn dilyn sôn bod y ddau dîm yn agos at gytuno i ornest yng Nghaerdydd.
Paratoi ar gyfer Ffrainc
Fe fyddai’r gemau ym mis Mawrth yn rhan o baratoadau Cymru ar gyfer Ewro 2016 ble byddan nhw’n wynebu Slofacia, Lloegr a Rwsia yn eu grŵp.
Y gred yw bod y rheolwr Chris Coleman yn awyddus i chwarae gemau fydd yn paratoi ei dîm ar gyfer beth i’w ddisgwyl yn Ffrainc ym mis Mehefin.
Byddai herio Gogledd Iwerddon yn gyfle i’r chwaraewyr brofi awyrgylch darbi Brydeinig cyn iddyn nhw herio’r Saeson ar 16 Mehefin, tra gallai chwarae yn erbyn yr Wcrain fod yn baratoad ar gyfer wynebu Rwsia.
Ddoe fe gadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y bydd y tîm yn aros mewn gwesty yn nhref Dinard yn Llydaw ar gyfer yr Ewros, sydd yn dechrau ar 10 Mehefin.