Rhydychen 3–2 Abertawe                                                               

Mae Abertawe allan o’r Cwpan FA ar ôl colli yn erbyn Rhydychen mewn gêm gyffrous yn y drydedd rownd yn Stadiwm Kassam amser cinio ddydd Sul.

Er bod y tîm cartref yn chwarae dair cynghrair yn is na’r Elyrch, hwy oedd y tîm gorau o bell ffordd ac roeddynt yn llawn haeddu ennill y gêm a sicrhau eu lle yn y bedwaredd rownd.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd Rhydychen yn dda ac roedd angen arbediad da gan Kristoffer Nordfeldt i arbed peniad Ryan Taylor o groesiad Chris Maguire.

Abertawe aeth ar y blaen serch hynny hanner ffordd trwy’r hanner, a gôl dda oedd hi hefyd. Wedi rhediad da i lawr y chwith fe chwaraeodd Jefferson Montero’r bêl i Marvin Emnes ar ochr y cwrt cosbi, sodlodd Emnes y bêl yn ôl i lwybr Montero cyn iddo yntau ei sodli i gornel isaf y gôl.

Bu bron i Jonjo Shelvey ddyblu’r fantais wyth munud cyn yr egwyl pan darodd ei gic rydd y rhwyd ochr ond Rhydychen, heb os, oedd y tîm gorau o hyd.

Er i Nordfeldt wneud arbediad da i atal Johnny Mullins ddau funud cyn yr egwyl fe ddisgynnodd y bêl i Alexander MacDonald yn y cwrt a dyfarnodd Kevien Friend iddo gael ei lorio gan Kyle Bartley. Sgoriodd Liam Sercombe o’r smotyn ac roedd y tîm cartref yn haeddiannol gyfartal ar yr egwyl.

Ail Hanner

Parhau i reoli a wnaeth Rhydychen yn yr ail hanner gyda Kemar Roofe yn ddraenen gyson yn ystlys yr Elyrch.

Sgoriodd gôl wychi roi ei dîm ar y blaen bedwar munud yn unig o’r ail ddechrau, yn torri i mewn o’r chwith cyn crymanu ergyd droed dde gelfydd i’r gornel isaf.

Bu bron i Jack Cork benio Abertawe’n gyfartal toc cyn yr awr ond llwyddodd Sam Slocombe i arbed a Rhydychen a sgoriodd o’r gic gornel ganlynol. Gwrthymosododd Maguire yn chwim cyn canfod Roofe a gwnaeth yntau’r gweddill, ei ail gôl ef mewn deg munud a’i dîm ddwy ar y blaen.

Tynnodd Bafétimbi Gomis un yn ôl i’r Elyrch hanner ffordd trwy’r hanner yn dilyn un-dau taclus gyda Cork ac roedd yr ymwelwyr o Gymru yn ôl yn y gêm.

Cafodd Montero gyfle i unioni pethau chwarter awr o’r diwedd ond gnwaeth Slocombe arbediad da i’w atal a’r tîm cartref orffennodd gryfaf wedi hynny mewn gwirionedd wrth ddal eu gafael i sicrhau buddugoliaeth gofiadwy.

Er i Alan Curtis roi hoe i chwaraewyr pwysig fel Williams, Taylor, Ki a Sigurdsson roedd tîm Abertawe yn un cymharol gryf ar bapur, ond cawsant wers go iawn yn Rhydychen.

.

Rhydychen

Tîm: Slocombe, Baldock, Mullins, Wright, Skarz, MacDonald (O’Dowda 71′), Sercombe, Lundstram, Maguire, Taylor (Hylton 80′), Roofe (Hoban 90′)

Goliau: Sercombe [c.o.s.] 45’, Roofe 49’ 59’

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Shephard, Bartley, Amat, Tabanou (Kingsley 60′), Cork, Grimes (Barrow 76′), Emnes, Shelvey, Montero, Gomis

Goliau: Montero 23’, Gomis 66’

Cardiau Melyn: Grimes 39’ Amat 46’, Tabanou 52’, Shelvey 53’

.

Torf: 11,673