Sgoriodd Gareth Bale hat-tric o goliau wrth i Real Madrid drechu Deportivo o 5-0 yng ngêm gyntaf Zinedine Zidane fel rheolwr.

Rhwydodd Bale cyn ac ar ôl yr egwyl – ei gyntaf wedi’i phenio oddi ar groesiad gan Dani Carvajal, a’r ail oddi ar ei droed yn dilyn croesiad gan Cristiano Ronaldo.

Daeth ei drydedd oddi ar ei ben yn dilyn cic o’r gornel gan Toni Kroos i gwblhau ei ail hat-tric y tymor hwn.

Daeth Bale oddi ar y cae yn fuan wedyn i fonllef o gymeradwyaeth.

Karim Benzema sgoriodd y ddwy gôl arall.

Mae Barcelona ar frig y gynghrair o hyd, gyda dau bwynt o flaenoriaeth dros Real Madrid ac mae ganddyn nhw un gêm mewn llaw.