Mae Abertawe’n teithio i Rydychen ddydd Sul ar gyfer trydedd rownd Cwpan yr FA, sef gêm gyntaf Alan Curtis wrth y llyw ers iddo gael ei enwi’n rheolwr y clwb tan ddiwedd y tymor.

Roedd pum pwynt o bum gêm fel rheolwr dros dro yn ddigon i ddarbwyllo’r cadeirydd Huw Jenkins fod y clwb mewn dwylo diogel o dan arweiniad Curtis tra eu bod nhw’n chwilio am olynydd parhaol i Garry Monk, a gafodd ei ddiswyddo fis diwethaf.

Er bod y pwyslais o hyd ar aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf, dywedodd Curtis wrth y wasg ddydd Gwener y gallai perfformiadau da yng Nghwpan yr FA roi hwb a hyder i’r Elyrch yn y gynghrair ar yr un pryd.

Gydag un llygad ar eu gornest gynghrair yn Stadiwm Liberty yn erbyn Sunderland nos Fercher, mae disgwyl i Curtis wneud sawl newid ar gyfer y gêm gwpan.

Dywedodd Alan Curtis: “Rhaid i’r Uwch Gynghrair fod yn brif flaenoriaeth i ni.

“Ond mae rhediad yn y gwpan bob amser yn braf ac rydyn ni am gael rhediad nawr, felly mae’n bwysig i ni ddechrau hynny y penwythnos yma.

“Bydd hefyd yn galluogi nifer o chwaraewyr i gymryd rhan mewn gêm mewn cystadleuaeth ffantastig.

“Fe fydd gyda ni un llygad ar y gêm ddydd Mercher felly fe fydd rhai newidiadau. Ond pa bynnag tîm fyddwn ni’n enwi, fe fydd e’n dîm cryf.

“Bydd hi’n gêm anodd ond galla i feddwl am lefydd gwaeth i fynd iddyn nhw. Mae Rhydychen yn chwarae pêl-droed dda ac mae ganddyn nhw stadiwm braf ac rydyn ni’n edrych ymlaen at yr her.”

Un o’r chwaraewyr ifainc fydd yn gobeithio cael cyfle i ddechrau’r gêm yng nghanol cae yw Matt Grimes, a symudodd i’r Liberty o Gaerwysg y llynedd ac sydd wedi chwarae mewn pedair gêm yn unig y tymor hwn.

Fe allai fod yn wynebu cyn-chwaraewr Caerwysg, Liam Sercombe, sydd bellach wedi symud i’r Kassam Stadium.

Dywedodd Matt Grimes: “Bydd hi’n rhyfedd iawn chwarae yn erbyn Liam gan fy mod i wedi’i adnabod e ers cryn amser.

“Roedden ni’n cydweithio’n dda yng nghanol cae i Gaerwysg ac ry’n ni’n ffrindiau da o hyd.

“Ond gobeithio mai fi fydd yr un fydd yn dathlu brynhawn Sul, oherwydd mae Cwpan yr FA yn golygu cryn dipyn i ni.”

Abertawe v Rhydychen – gemau’r gorffennol

Dydy Abertawe ddim wedi chwarae yn erbyn Rhydychen ers iddyn nhw gyfarfod yn yr Ail Adran yn 2005, pan oedd yr Elyrch yn fuddugol o 1-0 diolch i gôl gan eu cyn is-hyfforddwr Kristian O’Leary.

2003 oedd y tro diwethaf i Rydychen guro Abertawe, a hynny o 3-0 yn y Kassam Stadium.

Pan gyfarfu’r ddau dîm yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA yn 1993, 1-1 oedd y sgôr yn y Vetch cyn iddyn nhw orfod ail-chwarae’r ornest yn Rhydychen a chael gêm gyfartal unwaith eto (2-2), ond yr Elyrch oedd yn fuddugol o 5-4 yn dilyn ciciau o’r smotyn.

Bydd y gêm yn cael ei dangos yn fyw ar BBC2, a’r gic gyntaf am 12pm.