Enillodd tîm hoci iâ Devils Caerdydd o 3-1 yn erbyn Panthers Nottingham yn y brifddinas nos Sadwrn i gadw eu lle ar frig y gynghrair.

Dywedodd chwaraewr/hyfforddwr y Devils, Andrew Lord ar ddiwedd yr ornest mai hwn oedd eu “perfformiad gorau’r tymor”.

Daeth gôl gynta’r Devils ar ôl i’w cyn-gôlwarchodwr Matthew Myers gael ei gosbi, ac fe wnaeth Guillaume Doucet ddarganfod y rhwyd wedi tair munud a hanner, a hynny gyda chymorth Leigh Salters a chwaraewr newydd y Devils, Gleason Fournier.

Ond llai na munud gymerodd hi i’r ymwelwyr unioni’r sgôr wrth i Juraj Kolnik rwydo o bas gan Evan Mosey.

Aeth y Devils ar y blaen o 2-1 yn yr ail gyfnod wrth i gamgymeriad amddiffynnol gan yr ymwelwyr helpu Andrew Hotham i ergydio heibio Shane Madolara, oedd yn chwarae yn ei gêm gyntaf i’r Panthers.

Sicrhaodd y Devils y fuddugoliaeth gyda’u trydedd gôl, unwaith eto o ganlyniad i gamgymeriad gan y Saeson.

Cyfunodd Leigh Salters a Zach Hervato cyn i Salters ergydio o’r ymylon i mewn i’r rhwyd wag gyda naw munud yn weddill.

Daeth cyfle hwyr i’r ymwelwyr wrth i Andrew Hotham gael ei anfon o’r iâ, ond arhosodd amddiffyn y Devils yn gryf i wrthsefyll yr ymosodiad.

Cyn-chwaraewr y Panthers, Leigh Salters gafodd ei enwi’n seren yr ornest, ond rhaid canmol Ben Bowns yn y gôl, wrth iddo arbed 32 o ergydion allan o 33.

Bydd y Devils yn teithio i Coventry nos Sul wrth iddyn nhw geisio dal eu gafael ar frig y gynghrair.