Wrecsam 1–3 Woking                                                                      

Colli fu hanes Wrecsam wrth i Woking ymweld â’r Cae Ras yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn.

Roedd y Dreigiau’n gyfartal ar yr egwyl diolch i gôl Dominic Vose ond rhwydodd yr ymwelwyr ddwy waith yn yr ail hanner wrth ennill y gêm o dair i un.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi deuddeg munud pan wyrodd ergyd Keiran Murtagh oddi ar y postyn ac i’r rhwyd oddi ar gôl-geidwad Wrecsam, Rhys Taylor.

Ychydig dros dri munud yr arhosodd hi felly cyn i Vose unioni pethau i’r Dreigiau gyda chic rydd wych.

Aros yn gyfartal a wnaeth hi tan yr egwyl ond roedd Woking yn ôl ar y blaen wedi dim ond pum munud o’r ail hanner diolch i Joe Quigley.

Sicrhaodd Bruno Andrade y tri phwynt i’r ymwelwyr gyda gôl dri munud o ddiwedd y naw deg, yn manteisio ar gamgymeriad arall gan Taylor.

Mae Wrecsam yn aros yn yr unfed safle ar ddeg yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol ond maent bellach wedi colli pedair gêm yn olynol.

.

Wrecsam

Tîm: Taylor, Heslop, Smith, Fyfield, Vose (Jackson 73′), Jennings, Newton, Evans (Moke 81′), White, York, Hudson (Gray 58′)

Gôl: Vose 16’

Cardiau Melyn: Smith 33’, Evans 45’, Gray 86’, Newton 87’

.

Woking

Tîm: Cole, Caprice (Arthur 29′), Saah, Ricketts, Norman, Jones, Andrade (Mills 92′), Murtagh, Goddard, Sole (Poku 64′), Quigley

Goliau: Taylor [g.e.h] 13’, Quigley 49’, Andrade 83’

Cardiau Melyn: Sole 2’, Jones 31’

.

Torf: 4,030