Mae hi wedi bod yn wythnos brysur i bêl-droed yng Nghymru, rhwng y gwobrau chwaraeon blynyddol ac ymadawiad Garry Monk fel rheolwr Abertawe.

Fe fydd dydd Sadwrn yn un tyngedfennol i’r tîm cenedlaethol hefyd, a hynny wrth i Gymru ddarganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr nhw yn yng ngrŵp Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Ar y Pod Pêl-droed heddiw Owain Schiavone a Iolo Cheung sy’n trafod beth sy’n wynebu tîm Chris Coleman a phwy ydi’r timau maen nhw eisiau eu hosgoi, yn ogystal â beth nesaf i’r cefnogwyr fydd yn paratoi i fwcio’u taith i Ffrainc ac archebu tocynnau.

Mae’r ddau hefyd yn bwrw golwg nôl ar y gêm gyfeillgar diweddar yn erbyn yr Iseldiroedd yn ogystal â thrafod llyfr newydd Bryn Law am ymgyrch ragbrofol Cymru, a rhai o’r straeon eraill sydd wedi bod yn y penawdau, gan gynnwys diswyddiad Monk.

Gallwch wrando ar y Pod Pêl-droed diweddaraf isod, a gallwch hefyd ddilyn y linc canlynol i wrando ar bodlediad Golwg360 o Wobrau Chwaraeon Cymru: