Dydd Gwener, 17 Medi

Y Drenewydd 1-2 Aberystwyth

Llwydodd Aberystwyth i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ers penwythnos agoriadol y tymor gan drechu’r Drenewydd 1-2 oddi cartref.

Fe roddodd ergyd Jamie Veale o 40 llath hanner y fantais i Aberystwyth ac mae’n debyg ei bod hi’n gystadleuydd cynnar am gôl y tymor.

Sgoriodd Callum Roberts i’r tîm cartref i unioni’r sgôr, ond cipiodd yr eilydd Jonathan Evans y fuddugoliaeth i dîm Antonio Corbisiero, sy’n nawfed yn y tabl.

Dydd Sadwrn, 18 Medi

Caernarfon 2-0 Met Caerdydd

Enillodd Caernarfon eu hail gêm yn olynol gyda Danny Gosset a Mike Hayes yn hitio’r targed, gan atal rhediad buddugol dwy gêm Met Caerdydd yn y broses.

Roedd y Cofis wedi trechu’r Derwyddon Cefn yn ei gêm ddiwethaf.

Mae’r canlyniad yn codi dynion Huw Griffiths i bedwerydd yn y tabl, tra bod Met Caerdydd yn disgyn i seithfed.

Derwyddon Cefn 0-3 Penybont

Parhau wnaeth dechrau erchyll y Derwyddon Cefn i’r tymor wrth iddyn nhw golli 0-3 gartref yn erbyn Penybont.

Dyw’r Derwyddon heb ennill yr un pwynt o’i chwe gêm gyntaf, gan sgorio un ag ildio 21 o goliau yn y broses.

Daeth y goliau gan Lewis Harding, a James Waite – wnaeth sgorio dwy.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i’r Derwyddon pan gafodd Jake Hughes Hampson gerdyn coch yn y 71ain munud.

Doedd Penybont heb ennill yr un gêm cyn y penwythnos, ond mae’r fuddugoliaeth yn ddigon i godi’r clwb i’r wythfed safle.

Cei Connah 0-1 Y Bala

Collodd y Nomads ei ail gêm yn olynol, gyda chyn chwaraewr canol cae Cymru David Edwards yn sgorio unig gôl y gêm.

Mae’r Cymro nawr wedi sgorio pedair gôl mewn chwe gêm.

Dyw’r Bala ddim wedi colli’r un gêm hyd yma’r tymor hwn.

Mae’r canlyniad yn golygu fod Cei Connah wyth pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd ac yn y chweched safle wrth iddyn nhw amddiffyn teitl y Cymru Premier.

Hwlffordd 2-0 Y Fflint

Sgoriodd Alhagi Touray Sisay ddwy gôl wrth i Hwlffordd drechu’r Fflint gartref.

Hon oedd y gêm gyntaf i’r tîm cartref ennill y tymor hwn, tra bod y Fflint wedi gwneud dechrau da i’r tymor a byddan nhw’n siomedig iawn gyda’u perfformiad.

Y Seintiau Newydd 3-1 Y Barri

Mae’r Seintiau Newydd yn parhau ar y brig ar ôl trechu’r Barri gartref.

Sgoriodd Jordan Williams i roi’r tîm cartref ar y blaen cyn i Rhys Abbruzzese unioni’r sgôr.

Llwyddodd Ashley Baker i roi’r Seintiau yn ôl ar y blaen ac fe seliodd Declan McManus y fuddugoliaeth yn hwyr mewn i amser ychwanegol.

Y Tabl