Mae Caernarfon yn herio Derwyddon Cefn – cyn-glwb y rheolwr Huw Griffiths – ar yr Oval heno (nos Wener, 10 Medi).

Bydd y gic gyntaf am 7:45yh ac mae modd cael ticedi ar y giât neu drwy ap Skiddle.

Cafodd y Cofis ddechrau cymysg i dymor newydd y Cymru Premier gan ennill un, colli dwy a chael un gêm gyfartal.

Ar y llaw arall dyw Derwyddon Cefn ddim wedi ennill yr un pwynt hyd yma, gan golli eu pedair gêm agoriadol ag ildio 15 o goliau yn y broses.

Peint am £2.70

Mae Caernarfon hefyd wedi cyhoeddi y bydd y clwb cymdeithasol yn gweini peintiau am bris gostyngedig o £2.70 rhwng 6:45yh a 7:45yh.

Bydd y clwb ei hun yn agor am bump o’r gloch.