Wrecsam 4–0 Gateshead                                                                

Rhywdodd Wrecsam bedair gôl ail hanner wrth iddynt guro deg dyn Gateshead ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Wedi hanner cyntaf di sgôr newidiodd y gêm gyda cherdyn coch Patrick McLaghin ar ddechrau’r ail gyfnod.

Gyda dyn yn ychwanegol fe reolodd Wrecsam y meddiant a buan iawn y rhoddodd peniad Robbie Evans o groesiad Connor Jennings y Cymry ar y blaen.

Dyblodd Blaine Hudson y fantais hanner ffordd trwy’r ail hanner yn dilyn cic gornel Dominic Vose.

Yna, Vose ei hunan orffennodd y sgorio gyda dwy arall yn yr ugain munud olaf, y gyntaf yn dilyn rhediad gwirioneddol wych yn curo sawl amddiffynnwr a’r ail yn gôl symlach o bas Jennings.

Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam i’r wythfed safle yn nhabl y Gynghrair Genedlathol.

.

Wrecsam

Tîm: Taylor, Smith, Hudson, Moke, Newton, Fyfield, Evans (Carrington 71′), Nolan (Caton 74′), York, Jennings (Gray 78′), Vose

Goliau: Evans 55’, Husdon 66’, Vose 70’, 75’

.

Gateshead

Tîm: Russell, Ramsden, Clark, Mafuta (Baxter 73′), Cranston, Buddle, McLaughlin, Pattison, Honeyman, Bowman (Phillips 56′), Johnson (Shaw 79′)

Cardiau Melyn: McLaughin 32’, 49’, Mafuta 33’

Cerdyn Coch: McLaughin 49’

.

Torf: 4,055