Accrington Stanley 2–2 Casnewydd                                            

Mae rhediad da diweddar Casnewydd yn yr Ail Adran yn parhau yn dilyn gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Accrington Stanley ar y Crown Ground brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd goliau Yan Klukowski a Scott Boden yr Alltudion ar y blaen ddwywaith, ac er i Accrington daro nôl ar y ddau achlysur, bydd Casnewydd yn gymharol fodlon gyda phwynt oddi cartref yn erbyn y tîm a ddechreuodd y dydd yn drydydd yn y tabl.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Klukowski’r Cymry ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod pan beniodd groesiad Jazzi Barnum-Bobb i gefn y rhwyd.

Pedwar munud yn unig barodd hi felly cyn i Billy Kee unioni i Accrington.

Roedd Casnewydd yn ôl ar y blaen hanner ffordd trwy’r ail hanner diolch i ergyd wych o bellter gan Scott Bowden.

Cyfartal oedd hi yn y diwedd serch hynny wedi i Matt Crooks rwydo ar ôl i ymdrech wreiddiol Seamus Conneely daro yn erbyn y postyn.

Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd yn unfed ar hugain yn nhabl yr Ail Adran.

.

Accrington Stanley

Tîm: Mooney, Halliday, Davies, Winnard (Barry 55′), Pearson, Mingoia, Crooks, Conneely, McConville, Kee, Windass

Goliau: Kee 58’, Crooks 77’

Cardiau Melyn: Davies 15’, Conneely 90’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Partridge, Bennett, Donacien (Klukowski 21′), Barnum-Bobb, Rodman, Byrne, Elito, Barrow, Ansah (Boden 61′), John-Lewis

Goliau: Klukowski 54’, Boden 66

Cardiau Melyn: Barnum-Bobb 29, Rodman 49’

.

Torf: 1,552