Fe fydd Caerwysg heb yr asgellwr Robbie Willmott ar gyfer y gêm yn erbyn Casnewydd yn yr Ail Adran heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 24) gan nad oes hawl ganddo fe chwarae yn erbyn ei riant-glwb.

Dechreuodd e’r gêm ddi-sgôr yn erbyn Forest Green ganol yr wythnos, ac mae e wedi chwarae mewn 14 o gemau iddyn nhw ers mis Chwefror.

Mae disgwyl i Jack Sparkes gymryd ei le, ac fe allai Pierce Sweeney gymryd lle Rory McArdle.

Dim ond dwy gêm mae Caerwysg wedi’u hennill allan o’r deg gêm diwethaf, ond byddai’r triphwynt heddiw’n enfawr gan y byddai’n debygol o’u codi uwchlaw Casnewydd ar wahaniaeth goliau yn y ras am y gemau ail gyfle.

Mae Casnewydd yn seithfed, un pwynt islaw’r safleoedd ail gyfle, tra bod Caerwysg yn wythfed ond mae gan Gaerwysg fantais o naw gôl dros yr Alltudion.

Mae Casnewydd wedi cael hwb gyda’r newyddion fod Matty Dolanar gael eto ar ôl bod yn dilyn y protocol cyfergyd ganol yr wythnos.

Ond mae’r ymosodwr Ryan Taylor allan ag anaf.

Dydy ymosodwyr Casnewydd ddim wedi sgorio yn eu pedair gêm diwethaf, ac fe fydd Dom Telford, Jake Scrimshaw a Nicky Maynard yn cystadlu am le yn y tîm.