Mae Mick McCarthy, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud bod “gemau pwysig i ddod” i’r Adar Gleision wrth i dymor y Bencampwriaeth ddirwyn i ben.

Gyda thair gêm yn weddill, maen nhw allan o’r ras am y gemau ail gyfle, ond mae ganddyn nhw gemau yn erbyn timau sy’n brwydro i aros yn y gynghrair, gan ddechrau gyda’r ornest gartref yn erbyn Wycombe heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 24).

Cafodd yr ymwelwyr hwb ganol yr wythnos wrth drechu Bristol City, canlyniad sy’n eu gadael nhw ddau bwynt o’r safleoedd diogel – ond gyda Rotherham ddau bwynt a dau safle uwch eu pennau ond wedi chwarae dwy gêm yn llai.

Mae gan yr Adar Gleision gêm yn erbyn Rotherham i ddod hefyd ac felly byddan nhw’n gallu dylanwadu’n gryf ar y ras i oroesi.

“Mae’r rhain yn gemau pwysig iawn yn erbyn timau sy’n brwydro yn erbyn y gwymp ag eraill, gan ddechrau ddydd Sadwrn,” meddai’r rheolwr.

“Mae Birmingham wedi sortio’u hunain, ond wedyn mae gyda ni Rotherham ar y diwrnod olaf a dw i eisiau i ni fod yn gystadleuol ac ennill gemau.”

Mae’n dweud bod gan ei dîm “ddyletswydd i’r gynghrair” i sicrhau eu bod nhw’n ceisio ennill gemau, er nad oes ganddyn nhw fawr ddim i’w hennill bellach.

“Rhaid i ni gwblhau’r tymor yn gystadleuol, ond rydyn ni eisioes yn edrych ar y tymor nesaf – wrth gwrs ein bod ni,” meddai.

“Roedd Wycombe yn wych nos Fercher ac maen nhw wedi rhoi cyfle iddyn nhw eu hunain i aros i fyny.

“Ro’n i wrth fy modd drostyn nhw, a dweud y gwir, oherwydd mae Gareth [Ainsworth, y rheolwr] wedi gwneud gwaith gwych ac maen nhw’n ddrych ohonyn nhw eu hunain pan oedd e’n chwarae; dydyn nhw byth yn rhoi’r gorau iddi, bob amser yn brwydro hyd y diwedd a gall e fod yn falch o’r perfformiad hwnnw.”