Mae Marcelo Bielsa, rheolwr tîm pêl-droed Leeds, eisiau i’r Cymro Tyler Roberts berfformio’n fwy cyson y tu ôl i’r ymosodwr Patrick Bamford.
Daw siars yr Archentwr ar drothwy’r gêm yn erbyn Manchester United fory (dydd Sul, Ebrill 25).
Digon anghyson fu perfformiadau’r Cymro yn ei dri thymor gyda Leeds.
Roedd y da a’r drwg yn amlwg yn y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Lerpwl ddechrau’r wythnos, wrth iddo fe greu cyfle i Jack Harrison yn yr ail hanner cyn gwastraffu cyfle euraid o flaen y gôl wrth ergydio at y golwr Alisson Becker.
Dydy e ddim wedi sgorio mewn 21 o gemau y tymor hwn.
“Mae e wedi chwarae nifer o gemau’n olynol ac wedi dangos yr adnoddau er mwyn cyfiawnhau ei le yn dechrau yn y tîm,” meddai Marcelo Bielsa.
“Mae ganddo fe rinweddau sy’n anodd iawn i’w canfod yn y byd pêl-droed ar hyn o bryd.
“Mae ganddo fe’r holl adnoddau angenrheidiol i achosi diffyg cydbwysedd ymosodol ac mae ganddo fe dipyn o dyfu i’w wneud er mwyn gwneud yr ymdrechion hyn yn ddefnyddiol ac yn effeithiol.
“Mae ganddo fe nifer o rinweddau ac mae angen iddo fe gael effaith ar gêm ymosodol Leeds yn unol â’r rhinweddau sydd ganddo fe.
“Yn amlwg, does dim llawer o chwaraewyr â’i asedau creadigol e.”