Fydd tîm pêl-droed Abertawe ddim yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol wrth iddyn nhw geisio cadarnhau eu lle yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth fory (dydd Sul, Ebrill 25, 12yp), yn ôl eu rheolwr Steve Cooper.

Bydd yr Elyrch yn cadarnhau eu lle os ydyn nhw’n llwyddo i guro neu gael gêm gyfartal yn Reading, lle gwnaethon nhw gyflawni’r un gamp y tymor diwethaf.

“All dydd Sul ddim dod yn ddigon cyflym,” meddai Cooper.

“Fyddwn ni ddim yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol, rydyn ni wedi gweithio’n galed i fod yn y sefyllfa yma ac rydyn ni eisiau cwblhau’r gwaith.

“Ond rhaid i chi chwarae’r gêm a chael y canlyniad cywir, maen nhw’n chwarae am yr un peth ac maen nhw’n dîm da.

“Rydyn ni mewn sefyllfa wahanol ond rhaid i ni barchu hyny a chwarae’r gêm am yr hyn yw hi.

“Mae cymaint i chwarae ar ei gyfer ac mae hynny’n wir am gynifer o dimau adeg yma’r flwyddyn.

“Dydyn ni ddim yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol.

“Dydyn ni ddim yn y gemau ail gyfle eto, a rhaid i ni fynd ac ennill hynny.”