Aberystwyth 1-0 Y Drenewydd

Aberystwyth a aeth â hi yn erbyn y Drenewydd yng ngêm ddarbi canolbarth Cymru, os gellir galw dau le 45 milltir ar wahân yn hynny.

Roedd un gôl yn ddigon i’w hennill hi i’r tîm cartref ar Goedlan y Parc yn erbyn deg dyn y Robiniaid.

Tyrone Off-ori

Wedi i mi ganmol ei record sgorio ddiweddar yr wythnos diwethaf, dylanwadu ar y gêm mewn ffordd wahanol iawn a wnaeth blaenwr y Drenewydd, Tyrone Ofori, yr wythnos hon. Cafodd ei anfon o’r cae ar ôl derbyn ail gerdyn melyn yn gynnar yn yr ail hanner a chwaraeodd ei dîm y 40 munud olaf gyda deg dyn.

Drama hwyr

Bu bron i’r deg dyn ddal eu gafael cyni Harry Franklin roi aber ar y blaen gyda deuddeg munud yn weddill gyda’i gôl gyntaf dros y clwb. Ac am gôl hefyd, yn codi’r bêl yn gelfydd dros y golwr wrth redeg ar ongl ar draws y cwrt cosbi.

Roedd cyfle hwyr i’r Drenewydd achub pwynt wedi hynny ond cafodd cic o’r smotyn Alex Fletcher ei harbed yn wych gan Connor Roberts.

Mae’r canlyniad yn codi Aberystwyth i’r nawfed safle yn y tabl, dri phwynt yn unig y tu ôl i’r Drenewydd.

 

*

 

Cei Connah 2-0 Hwlffordd

Ymestynnodd Cei Connah eu mantais ar frig y tabl i chwe phwynt gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn Hwlffordd yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy.

Manteisiodd tîm Andy Morrison ar y ffaith nad oedd y Seintiau Newydd yn chwarae’r penwythnos hwn i agor y bwlch ar y brig gyda buddugoliaeth o ddwy gôl i ddim.

Brexit Sir Benfro

Mae nifer o bethau i’w setlo rhwng nawr a diwedd y tymor ond un peth sydd yn sicr, ni fydd Hwlffordd yn chwarae yn Ewrop y tymor nesaf. Cyhoeddwyd yr wythnos hon nad yw’r Adar Gleision wedi gwneud cais am drwydded UEFA gan nad oes gan y rheolwr, Wayne Jones, y drwydded hyfforddi briodol.

Bydd hynny’n siom i nifer o ystyried bod ganddynt obaith gwirioneddol o gyrraedd y gemau ail gyfle yn dilyn hanner cyntaf gwych i’w tymor cyntaf yn ôl yn y gynghrair. Wedi dweud hynny, mae’n rhywbeth yn braf am weld clwb yn cadw ffydd gyda’u rheolwr yn hytrach na pharasiwtio hyfforddwr profiadol i mewn gyda’r cymwysterau.

Clwb 200

George Horan a roddodd Cei Connah ar y blaen yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf gyda gôl ddigon bêr o gic gornel.

Nid oedd ail gôl y tîm cartref toc cyn yr awr yn glasur chwaith, tap-in i rwyd wag o dair llath. Roedd hi’n gôl arwyddocaol serch hynny gan mai hon oedd dau ganfed Mike Wilde yn Uwch Gynghrair Cymru. Mae’r blaenwr mor ffit ac effeithiol ag erioed, yn 37 mlwydd oed.

 

*

 

Met Caerdydd 0-0 Derwyddon Cefn

Gorffen yn ddi sgôr a wnaeth hi wrth i Met Caerdydd groesawu Derwyddon Cefn i Gampws Cyncoed.

Y tîm cartref a gafodd y gorau o’r cyfleoedd ond troi’r cyfleoedd hynny’n goliau yw problem fawr sgorwyr isaf y gynghrair.

Dau dîm elît

Daeth cadarnhad yr wythnos hon o’r hyn yr oedd llawer yn ei ofni; na fydd pêl droed yn dychwelyd o dan lefel y Cymru Premier y tymor hwn. Roedd y cynghreiriau is yn gobeithio dechrau mewn rhyw ffurf dros yr wythnosau nesaf ond ni fydd hynny’n bosib wedi i’r Grŵp Chwaraeon Cenedlaethol wrthod rhoi statws elît iddynt.

Nid oes cadarnhad o’r hyn fydd hynny’n ei olygu o ran esgyn a disgyn ond mae’n anodd iawn gweld neb yn colli eu lle yn y Cymru Premier ar ddiwedd y tymor o dan yr amgylchiadau.

Bydd hynny’n rhyddhad mawr i’r ddau dîm yma. Mae’r Derwyddon Cefn yn aros ar waelod y tabl wedi’r gêm gyfartal hon ac mae’r Met yn llithro i’r degfed safle, ddau bwynt yn unig yn glir o’r ddau safle isaf.

 

*

 

Penybont 1-2 Y Fflint

Roedd sioc yn Stadiwm SDM Glass wrth i Benybont golli gartref yn erbyn y Fflint.

Mae Penybont wedi bod yn hedfan yn yr hanner uchaf y tymor hwn ond y tîm sydd yn ail o waelod y tabl a aeth â hi o ddwy gôl i un; y Fflint, fel Met a’r Derwyddon, yn teimlo’r rhyddhad fod eu statws yn y gynghrair yn eithaf diogel am dymor arall yn dilyn datblygiadau’r wythnos hon o bosib.

Cic gornel i galon y gôl

Does dim dwywaith fod y safon yn codi’n gyson yn Uwch Gynghrair Cymru, ond o dro i dro daw rhywbeth i’w gadael hi i lawr, rhywbeth fel gôl yn uniongyrchol o gic gornel!

Sam Hart a oedd y sgoriwr y tro hwn a’r gôl-geidwad anffodus a oedd Ashley Morris, un o oreuon y gynghrair dros y degawd diwethaf er tegwch iddo.

Alex Jones yn cyflwyno’r ail

Dyblodd yr ymwelwyr eu mantais ar ddiwedd yr hanner cyntaf wrth i Alex Jones (nid yr un yna) orffen yn daclus ar y cynnig cyntaf wedi symudiad slic.

Sgoriodd Lewis Clutton gôl gysur ddigon destlus i’r tîm cartref yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm ond rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi wrth i’r Fflint ddal eu gafael ar dri phwynt prin.

 

*

 

Y Bala 1-2 Caernarfon

Cododd Caernarfon i’r chwech uchaf gyda buddugoliaeth dda oddi cartref yn y Bala yng ngêm fyw Sgorio.

Roedd y Cofis ar ei hôl hi ar hanner amser ar Faes Tegid cyn taro nôl wedi’r egwyl i’w hennill hi o ddwy gôl i un.

Y Bala ar y blaen

Chwarter awr yn unig a oedd ar y cloc pan aeth y tîm cartref ar y blaen wrth i beniad gwan Will Evans wyro i gefn y rhwyd oddi ar fron Gareth Edwards.

Roedd y Bala yn edrych yn ddigon cyfforddus rhwng hynny a’r egwyl hefyd ond dim ond gôl oedd ynddi wrth droi.

Cofis yn cwffio nôl

Tarodd Caernarfon yn ôl yn gynnar yn yr ail gyfnod gyda gôl unigol wych gan Mike Hayes, yn torri i mewn o’r asgell dde cyn crymanu ergyd droed chwith i’r gornel uchaf yn erbyn ei gyn glwb.

Gôl dipyn blerach a oedd yr un fuddugol, ugain munud o’r diwedd. Methodd y Bala â chlirio’r bêl o’r cwrt cosbi a disgynnodd i Paulo Mendes, a gafodd flaen troed bwysig iddi yn y cwrt chwech.

 

Gwilym Dwyfor