Bristol Rovers 1–4 Casnewydd
Cododd Casnewydd o waelod yr Ail Adran gyda buddugoliaeth swmpus oddi cartref yn erbyn Bristol Rovers yn y Memorial Stadium brynhawn Sadwrn.
Cyfartal oedd hi ar yr egwyl ond sgoriodd Zac Ansah ddwywaith yn neuddeg munud cyntaf yr ail hanner cyn i gôl hwyr Tommy O’Sullivan sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Alltudion.
Aeth Casnewydd ar y blaen wedi deuddeg munud pan beniodd Tom Parkes i’w rwyd ei hun, ond roedd Bristol Rovers yn gyfartal o fewn dim, diolch i ergyd wych Billy Bodin o bellter.
Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond dim ond tîm oedd ynddi ar ddechrau’r ail gyfnod. Sgoriodd Ansah ei gyntaf wedi saith munud yn dilyn camgymeriad gan y golwr cartref, Lee Nicholls, cyn rhwydo’i ail bum munud yn ddiweddarach.
Coronodd O’Sullivan y perfformiad a’r fuddugoliaeth gydag ergyd daclus o bellter chwarter awr o’r diwedd.
Hon oedd ail fuddugoliaeth Casnewydd yn olynol, digon i’w codi ddau le i’r ail safle ar hugain yn nhabl yr Ail Adran.
.
Bristol Rovers
Tîm: Nicholls, Leadbitter, Lockyer, Parkes, Brown, Gosling (Montano Castillo 67′), Mansell (Lines 66′), Sinclair, Bodin, Taylor, Easter (Harrison 73′)
Gôl: Bodin 15’
.
Casnewydd
Tîm: Day, Partridge, Bennett, Donacien, Barnum-Bobb, Barrow (Holmes 88′), Byrne, O’Sullivan (Klukowski 79′), Elito, Ansah (Boden 84′), John-Lewis
Goliau: Parkes [g.e.h.] 13’, Ansah 52, 57’, O’Sullivan 75’
Cerdyn Melyn: Elito 82’
.
Torf: 7,442