Aston Villa 1–2 Abertawe                                                               

Sgoriodd un o’r brodyr Ayew yn y ddau ben wrth i Abertawe drechu Aston Villa oddi cartref brynhawn Sadwrn.

Er i Jordan Ayew roi’r tîm cartref ar y blaen ar Barc Villa, ei frawd, André a gafodd y gair olaf wrth iddo ennill y gêm i’r Elyrch dri munud o ddiwedd y naw deg.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr, peniodd Jordan Ayew’r tîm cartref ar y blaen o groesiad Gabriel Agbonlahor.

Chwe munud yn unig arhosodd hi felly cyn i Gylfi Sigurdsson unioni’r sgôr gyda chic rydd gelfydd o bum llath ar hugain.

Roedd yr amser yn diflannu pan ddaeth Kyle Naughton o hyd i André Ayew yn y cwrt cosbi a rhwydodd y gŵr o Ghana i dorri calon ei frawd ac Aston Villa.

Cafodd Joleon Lescott gyfle hwyr i gipio pwynt i’r tîm cartref ond anelodd ei ergyd dros y trawst.

Mae’r canlyniad yn cadw Villa tua gwaelodion yr Uwch Gynghrair ond yn codi’r Elyrch i’r unfed safle ar ddeg.

.

Aston Villa

Tîm: Guzan, Hutton, Richards, Lescott, Richardson, Bacuna, Gueye, J Ayew, Grealish (Gil 74′), Agbonlahor (Traoré 85′), Gestede

Gôl: J. Aeyw 62’

Melyn: Richards 31’, Richardson 77’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Williams, Taylor, Ki Sung-yueng, Shelvey (Cork – 85′ ), Ayew, Sigurdsson, Montero (Barrow 76′), Gomis (Éder 90′)

Goliau: Sigurdsson 68’, A. Ayew

Cardiau Melyn: Naughton 29’, Williams 31’, Sigurdsson 73’

.

Torf: 33,324