Gweilch 16–21 Connacht
Colli fu hanes y Gweilch wrth i Connacht ymweld â’r Liberty yn y Guinness Pro12 brynhawn Sadwrn.
Er i’r ddau dîm sgorio dau gais yr un, anghofiodd y maswr cartref, Sam Davies, ei esgidiau cicio a’r Gwyddelod aeth â hi yn y diwedd.
Hanner Cyntaf
Ciciodd Davies y Gweilch ar y blaen wedi dim ond tri munud ond roedd Connacht yn gyfartal yn fuan wedyn diolch i dri phwynt o droed Jack Carty.
Daeth cais cyntaf y gêm wedi chwarter awr o chwarae, Dan Baker yr wythwr yn sgorio wedi gwaith da Eli Walker ar yr asgell.
Anfonwyd Josh Matavesi i’r gell gosb hanner ffordd trwy’r hanner am arafu pêl Connacht yng nghysgod pyst y Gweilch a manteisiodd yr ymwelwyr yn llawn.
Llwyddodd Carty gyda’r gic gosb ganlynol a chroesodd Connacht am gais hefyd tra yr oedd y Gweilch i lawr i bedwar dyn ar ddeg.
Matt Healy oedd sgoriwr y cais hwnnw, yr asgellwr yn manteisio ar y ffaith nad oedd digon o amddiffynnwyr ar yr ochr dywyll yn dilyn sgrym bump ymosodol, 8-11 y sgôr felly ar hanner amser.
Ail Hanner
Dechreuodd yr ymwelwyr yr ail hanner yn bwrpasol gan groesi am ail gais wedi dim ond pedwar munud.
Seren y gêm, Bundee Aki, gafodd y cais hwnnw, y canolwr yn dangos cryfder i hyrddio drosodd trwy dri taclwr. Llwyddodd Carty gyda’r trosiad i roi ei dîm ddeg pwynt ar y blaen.
Y Gweilch gafodd y gorau o’r tir a’r meddiant wedi hynny ac roeddynt yn ôl o fewn dau bwynt gyda deg munud i fynd diolch i gic gosb Davies a chais yr eilydd, Justin Tipuruc.
Byddai trosiad wedi rhoi’r Gweilch yn gyfartal ond methu a wnaeth Davies, dwy gic lwyddiannus allan o saith oedd record y maswr yn y gêm.
Rhoddodd tri phwynt hwyr Craig Ronaldson ychydig mwy o olau dydd rhwng y ddau dîm a daliodd Connacht eu gafael ar y fuddugoliaeth, gan adael y Gweilch gyda phwynt bonws yn unig.
.
Gweilch
Ceisiau: Dan Baker 15’, Justin Tipuric 69’
Ciciau Cosb: Sam Davies 3’, 57’
Cerdyn Melyn: Josh Matavesi 19’
.
Connacht
Ceisiau: Matt Healy 28’, Bundee Aki 44’
Trosiad: Jack Carty 46’
Ciciau Cosb: Jack Carty 11’, 20’, Craig Ronaldson 78’