Gorffennodd Sabrina Fortune o Sir y Fflint yn y pedwerydd safle yn y siot yng nghategori F20 ym Mhencampwriaethau’r Byd yr IPC yn Doha ddydd Gwener.

Mae’r categori F20 ar gyfer athletwyr y maes a chanddyn nhw anableddau dysgu.

Taflodd Fortune, athletwraig 19 oed o Argoed sy’n dioddef o gyflwr dyspracsia lleferydd, bellter o 12.27 metr – ei thafliad gorau’r tymor hwn.

Ewa Durska o Wlad Pwyl ddaeth i’r brig i ennill y fedal aur am dafliad o 13.92 metr.

Aeth y fedal arian i Antonina Baranova o Rwsia am dafliad o 13.41 metr, a chipiodd Anastasiia Mysnyk o’r Wcráin y fedal efydd am dafliad o 12.89 metr – y ddwy ohonyn nhw’n cofnodi eu perfformiadau gorau’r tymor hwn.