Ulster 24–17 Gleision

Ulster aeth â hi nos Wener wrth i’r Gleision ymweld â Stadiwm Kingspan i herio’r Gwyddelod yn y Guinness Pro12.

Manteisiodd Ulster yn llawn ar ddiffyg disgyblaeth y Gleision gan sgorio tri o’u pedwar cais tra yr oedd Josh Turnbull yn y gell gosb.

Ciciodd Rhys Patchell y Gleision ar y blaen cyn i Andrew Trimble roi’r tîm cartref ar y blaen gyda chais cyntaf y gêm.

Roedd y Gleision yn ôl ar y blaen wrth i’r egwyl agosáu diolch i ddwy gic arall o droed Patchell, ond newidiodd y gêm pan dderbyniodd yr wythwr, Turnbull, gerdyn melyn.

Plymiodd y mewnwr, Paul Marshall, am gais yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf, cyn i Nick Williams a Start McCloskey ychwanegu dau arall tra yr oedd y Gleision dal i lawr i bedwar dyn ar ddeg yn neg munud cyntaf yr ail hanner.

Roedd hynny’n ddigon i sicrhau pwynt bonws i’r Gwyddelod, ond roedd digon o amser ar ôl i’r Gleision gipio pwynt bonws eu hunain hefyd diolch i gais Josh Navidi a chic gosb hwyr Patchell, 24-17 y sgôr terfynol.

.

Ulster

Ceisiau: Andrew Trimble 18’, Paul Marshall 40’, Nick Williams 45’, Stuart McCloskey 49’

Trosiadau: Ian Humphreys 40’, 45’

Cerdyn Melyn: Wiehahn Herbst 55’

.

Gleision

Ceisiau: Josh Navidi 58’

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 3’, 22’, 36’, 73’ 

Cerdyn Melyn: Josh Turnbull 40’