Dydy tîm pêl-droed Casnewydd ddim yn gwybod eto a fydd Scott Twine ar gael i herio Southend yfory (dydd Sadwrn, Ionawr 2).

Mae adroddiadau y gallai Swindon alw’r chwaraewr canol cae yn ôl o’i gyfnod ar fenthyg yn Rodney Parade cyn y gêm.

Mae e wedi sgorio saith gôl i’r Alltudion ar eu ffordd i frig yr Ail Adran, ond mae cymal yn ei gytundeb sy’n rhoi’r hawl i Swindon ei alw’n ôl o Gymru mis yma.

Ond dylai’r golwr Nick Townsend a’r capten Joss Labadie fod yn holliach ar gyfer y gêm.

Mae Southend ar waelod y tabl, a byddan nhw heb y chwaraewr canol cae Kyle Taylor wrth iddo hunanynysu wrth aros am ganlyniadau prawf coronafeirws.

Bydd y cefnwr chwith Tom Clifford a’r chwaraewr canol cae Alan McCormack yn cael profion ffitrwydd, a gallai Kaziah Sterling gael ei ychwanegu i garfan yr ymwelwyr.