Er gwaethaf cychwyn addawol a’u rhoddodd ddwy gôl ar y blaen, colli 4-2 gartref i Oldham a wnaeth Casnewydd yn Rodney Parade y pnawn yma.
Sgoriodd Scott Twine un a chreodd un arall i Scot Bennett, ond ildiodd Casnewydd ddwy – rhai y gallen nhw fod wedi eu hatal – i Davis Keillor-Dunn a Conor McAleny i ddod â’r sgôr yn gyfartal.
Methodd ergydiwr Casnewydd, Padraig Amond, gic o’r smotyn yn yr ail hanner, ac fe wnaeth yr eilyddion Alfie McCalmont a Zak Dearnley arwain Oldham i fuddugoliaeth gyda dwy gôl hwyr.
Dim ond y pedwerydd tro oedd hwn i Gasnewydd golli gêm y tymor yma yng Nghynghrair Dau Sky Bet.