Abertawe 2–2 Tottenham
Dwy gôl yr un oedd hi wrth i Tottenham ymweld â’r Liberty yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sul.
Aeth Abertawe ar y blaen ddwy waith ond tarodd Spurs yn ôl ar y ddau achlysur gyda dwy gic rydd gan Christian Eriksen.
Chwarter awr oedd wedi mynd pan beniodd André Ayew y tîm cartref ar y blaen o groesiad Jefferson Montero.
Roedd Spurs yn gyfartal ychydig dros ddeg munud yn ddiweddarach pan rwydodd Eriksen gyda chic rydd gelfydd o bum llath ar hugain yn dilyn trosedd Federico Fernandez ar Dele Alli.
Wnaeth hi ddim aros yn gyfartal yn hir, roedd yr Elyrch yn ôl ar y blaen wedi hanner awr o chwarae diolch i gôl i’w rwyd ei hun gan Harry Kane o gic gornel Jonjo Shelvey.
Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond roedd Spurs yn gyfartal eto wedi ugain munud o’r ail hanner diolch i gic rydd wych arall gan Eriksen yn dilyn trosedd arall ar Alli, gan Shelvey y tro hwn.
Felly yr arhosodd hi tan y diwedd wrth i’r ddau dîm orfod bodloni ar gêm gyfartal. Mae’r pwynt yn codi’r Elyrch i’r unfed safle ar ddeg yn nhabl yr Uwch Gynghrair.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Rangel, Fernandez, Williams, Taylor, Ki Sung-yueng, Shelvey (Cork 86′), Ayew, Sigurdsson (Barrow 75′), Montero, Gomis
Goliau: Ayew 16’, Kane [g.e.h.] 31’
Cerdyn Melyn: Fernandez 26’
.
Tottenham
Tîm: Lloris, Walker, Alderweireld, Vertonghen, Davies, Dier, Alli, Lamela (Townsend 57′), Eriksen, Chadli (N’Jie 64′), Kane (Dembélé 81′)
Goliau: Eriksen 27’, 65’
Cardiau Melyn: Davies 53’, Dier 79’, Vertonghen 83’, Walker 89’
.
Torf: 20,845