Fe fydd Abertawe’n awyddus i roi terfyn ar gyfnod hesb yn yr Uwch Gynghrair wrth i Tottenham ymweld â Stadiwm Liberty brynhawn Sul (4 o’r gloch).
Dim ond un pwynt gafodd yr Elyrch yn eu tair gêm diwethaf yn y gynghrair.
Collon nhw o 3-1 yn erbyn Southampton y penwythnos diwethaf.
A dydy’r Elyrch ddim wedi curo’r gwrthwynebwyr ers iddyn nhw gael eu dyrchafu i’r Uwch Gynghrair, gan golli’r saith gêm diwethaf.
Gêm gyfartal 1-1 nos Galan 2011 yw’r canlyniad gorau gafodd yr Elyrch yn erbyn eu gwrthwynebwyr yn ystod y tymhorau diwethaf.
Dim ond unwaith mae Tottenham wedi colli mewn naw gêm ym mhob cystadleuaeth.
Ar drothwy’r ornest, dywedodd rheolwr Abertawe, Garry Monk: “Ry’n ni wedi cael nifer o gemau da yn eu herbyn nhw ers i ni fod yn yr Uwch Gynghrair.
“Ond ar yr un pryd, dim ond un pwynt gawson ni o’r gemau hynny, hyd yn oed os oedden nhw’n haeddu gwell mewn rhai gemau.
“Ond mae’n record ry’n ni am ei newid, dyna ein ffocws ni a byddwn ni’n anelu i wneud hynny y penwythnos yma.”
Mae Monk wedi galw ar ei chwaraewyr i anghofio’r gemau rhyngwladol dros yr wythnosau nesaf wrth i Abertawe geisio gwella ar eu canlyniadau diweddar.
Dydy’r Elyrch ddim wedi ennill ers y toriad diwethaf am gemau rhyngwladol.
“Mae eleni’n wahanol i unrhyw flwyddyn arall o ran hawliau teledu a’r chwaraewyr yn ceisio brwydro am le yn y timau cenedlaethol a chymhwyso.
“Rhaid i fi sicrhau bod yr holl ffocws ar Abertawe a’r hyn ry’n ni’n ei wneud yma. Rhaid i ni sicrhau bod popeth arall yn cael ei adael yn rhywle arall a’n bod ni’n canolbwyntio ar ddydd Sul.”
Ond dywedodd ei bod yn anochel y byddai’r chwaraewyr yn meddwl am y gemau rhyngwladol.
Tra bod Andre Ayew a Ki Sung-yueng wedi teithio’n bell ar gyfer y gemau rhyngwladol diwethaf, roedd Ashley Williams a Neil Taylor yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2016, a Gylfi Sigurdsson yng ngharfan Gwlad yr Iâ.
Ychwanegodd Monk: “Yr unig reswm pam fod pobol yn siarad am bêl-droed rhyngwladol yw fod pobol yn chwarae’n dda i’w clybiau.
“Mae’n ddealladwy fod ffrindiau, teuluoedd, asiantiaid a’r cyfryngau’n siarad am bethau eraill. Ond maen nhw’n tynnu sylw a dylen ni fod yn ddigon da i ymdrin â’r cyfan a chanolbwyntio ar Abertawe.”