Roedd gôl hwyr gan Eastleigh yn ddigon i drechu Wrecsam o 3-2 ar y Cae Ras prynhawn Sadwrn.

Peniodd Ben Stevens y gôl fuddugol ar ôl 87 munud, wedi i’r tîm cartref frwydro nôl o fod dwy gôl ar ei hôl hi.

Roedd Eastleigh ar y blaen o 2-0 ar yr egwyl diolch i goliau gan Jai Reason ac Andy Drury, ond ar ôl 53 munud fe rwydodd Wes York i Wrecsam a gyda chwarter awr i fynd fe beniodd Sean Newton o gic gornel i unioni’r sgôr.

Ond roedd gôl hwyr Stevens yn ddigon i dorri calonnau’r Dreigiau, sydd bellach yn bumed yn y Gyngres.