Hull 1–0 Abertawe                                                                             

Mae Abertawe allan o Gwpan y Gynghrair ar ôl colli yn erbyn Hull oddi cartref yn Stadiwm KC nos Fawrth.

Gwnaeth Gary Monk ddeg newid i’r tîm a ddechreuodd y gêm gyfartal yn erbyn Everton ar y Liberty brynhawn Sadwrn, a chafwyd perfformiad di fflach gan ail dîm yr Elyrch wrth i gôl David Meyler ennill y gêm i’r tîm cartref.

Cafodd Abertawe gyfleoedd da yn yr hanner cyntaf ond roedd Matt Grimes, Gylfi Sigurdsson ac Wayne Routledge i gyd yn wastraffus.

Hull yn hytrach oedd ar y blaen ar yr egwyl wedi i’r bêl adlamu’n garedig i Meyler yn y cwrt cosbi am gôl hawdd bum munud cyn yr hanner.

Doedd yr Elyrch ddim mor fygythiol yn yr ail gyfnod, er iddynt ddod â chwaraewyr dylanwadol fel Jonjo Shelvey a Bafitimbi Gomis i’r cae.

Daliodd Hull eu gafael ar y fantais fain felly gan roi’r ymwelwyr o Gymru allan o’r gystadleuaeth.

.

Hull

Tîm: Jakupovic, Taylor (Odubajo 59′), Maguire, Davies, Robertson, Elmohamady, Meyler, Livermore (Clucas 69′), Hayden (Huddlestone 85′), Maloney, Akpom

Gôl: Meyler 41’

Cerdyn Melyn: Robertson 40’

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Amat, Tabanou (Naughton 72′), Bartley, Rangel, Britton, Sigurdsson, Routledge, Ki Sung-yueng, Grimes (Shelvey 57′), Éder (Gomis 64′)

Cerdyn Melyn: Amat 42’

.

Torf: 16,286