Mae Real Madrid ar fin ennill La Liga ond Gareth Bale sy’n dominyddu’r penawdau, ar ôl cael ei anwybyddu gan y rheolwr, Zinedine Zidane.

Mae’r arbenigwr ar bêl-droed Sbaen, Terry Gibson, cyn-chwaraewr Coventry, Manchester United a Wimbledon, wedi galw’r sefyllfa’n “rhyfedd”.

Bydd Los Blancos yn selio’u pencampwriaeth gyntaf ers 2017 gyda gêm i sbario drwy ennill yn erbyn Villarreal nos fory (nos Iau 16 Gorffennaf).

Mae Real wedi bod ar dân ers i La Liga ailgychwyn ar ôl egwyl yn sgil y coronafeirws, gan ennill pob un o’u naw gêm, ond mae absenoldeb Bale wedi bod yn amlwg.

Mae’r arwr o Gymro wedi chwarae rhan allweddol yn llwyddiannau cewri’r Bernabeu ers ymuno o Tottenham yn 2013, ac eto dim ond 100 munud o bêl-droed y mae wedi chwarae ers ers i La Liga ailgychwyn.

Mae Bale wedi bod yn eilydd heb ei ddefnyddio yn y pum gêm ddiwethaf, ac mae wedi ennyn sylw gyda’i ymddygiad diweddar; gan gael ei weld yn esgus cysgu mewn un gêm ac esgus edrych drwy delesgop dychmygol mewn gêm arall.

Dywedodd Terry Gibson, sydd bellach yn sylwebu ar gemau i LaLigaTV:

“Mae e wedi dechrau un o’r gemau ers yr ailgychwyn, a d’yw e ddim hyd yn oed yn cynhesu ar y llinell ystlys nawr. Mae e jyst yn eistedd ’na.

“Roedd ganddo fwgwd dros ei lygaid ac roedd e’n esgus cysgu a wedyn p’nosweth roedd [e’n esgus] gwylio’r gem drwy delesgop. Mae’n rhyfedd.

“Trueni”

“Ond dw i’n credu ei fod yn drueni mawr. Dw i’n credu ei bod yn wers i glybiau mawr, pan fyddan nhw’n prynu’r chwaraewyr mawr hyn, fod yn rhaid iddynt eu defnyddio achos does dim llawer o bobl eraill yn gallu eu cymryd oddi ar eich dwylo.

“Ond wedi dweud hynny, mae Gareth Bale wedi bod yn llwyddiant yn Real Madrid. Allwch chi ddim dweud ei fod wedi bod yn wastraff arian. A d’yw e ddim ar ei ben ei hun: d’yw James Rodriguez ddim hyd yn oed ar y fainc nawr.

“Mae Gareth Bale yn y garfan ond d’yw e ddim yn cynhesu, ddim yn mynd i ddod ymlaen ac mae’n rhyfedd.”

Roedd Bale bron â symud i China y llynedd ac mae’n siŵr bod y sefyllfa Covid-19 wedi lleihau’r pwll o glybiau y gallai fynd iddynt yr haf hwn. Mae’n 30 mlwydd oed bellach, ac mae ganddo ddwy flynedd ar ôl ei gytundeb yn y Bernabeu o hyd.

Mae Gibson yn credu y dylai Zidane ganolbwyntio ar gael y gorau allan ohono.

“Dylai fod yn chwarae bob wythnos i Real Madrid,” meddai Gibson. “Dylai fod yn chwaraewr pwysig o hyd. Ond yn amlwg d’yw e ddim.

“Dydw i ddim yn gwybod sut fydd hyn yn gorffen. Galla’ i ddychmygu fe’n aros blwyddyn arall nawr ac yn gwneud yr un peth eto.”