Mae Neil Harris, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud bod “ffin denau rhwng ennill a cholli”, ar ôl i’w dîm golli o 2-0 yn Fulham neithiwr (nos Wener, Gorfennaf 10).

Sgoriodd Aleksandar Mitrovic o’r smotyn a rhwydodd Josh Onomah yn yr ail hanner i gosbi’r Adar Gleision, wrth iddyn nhw barhau i frwydro am le yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.

“Rydyn ni’n siomedig o fod wedi colli’r gêm,” meddai’r rheolwr.

“Dw i ddim yn meddwl bod rhyw lawer ynddi.

“Yn yr hanner cyntaf, mae’n siŵr fod Fulham wedi mynd â hi o drwch blewyn ac mai nhw oedd y tîm gorau.

“Yn yr ail hanner, ro’n i’n meddwl bod ein perfformiad ni’n gryf iawn, ond mae’n ffin denau yn y gemau hyn ar hyn o bryd.

“Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi chwarae â dewrder yn yr ail hanner yna, gan symud y bêl i lefydd da ac wedi gorfodi llawer o sefyllfaoedd pêl farw.

“Ond wnaethon ni ddim gwneud digon yn y cwrt cosbi, sef lle mae gemau’n cael eu hennill a’u colli yn y pen draw.”

Gweddill y tymor

Mae’r canlyniad yn gadael Caerdydd yn y chweched safle, un pwynt ar y blaen i Abertawe, gyda phedair gêm yn weddill.

Bydd yr Adar Gleision yn croesawu Derby County i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.

“Rydyn ni’n dal yn y chweched safle ac mae timau’n ein cwrso ni,” meddai Neil Harris.

“Os ydyn ni’n cwympo allan o’r chwech uchaf cyn nos Fawrth, awn ni amdani eto heb ofn.

“Dw i’n credu mai dyna sut fydd hi rhwng nawr a gêm ola’r tymor wythnos i nos Fercher.

“Ond rydyn ni wedi sicrhau lle da i ni ein hunain – nawr, mae’n fater o gasglu pwyntiau.”