Chwip o gôl gan Adam Armstrong oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 7), wrth i Blackburn guro Caerdydd o 3-2 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Daeth yr ergyd dyngedfennol o 45 llathen ar ôl 69 munud yn ergyd i obeithion yr Adar Gleision wrth i’r ymwelwyr daro’n ôl ddwywaith i unioni’r sgôr a chipio’r triphwynt ar ddiwedd y noson.

Aeth Caerdydd ar y blaen drwy Will Vaulks cyn i Danny Graham rwydo i’r ymwelwyr.

Aethon nhw ar y blaen am yr eildro drwy Robert Glatzel cyn i Dominic Samuel rwydo i’r Saeson i’w gwneud hi’n 2-2 ond mewn gwirionedd, fe ddylai Blackburn hefyd fod wedi ennill cic o’r smotyn yn dilyn trosedd ar Samuel.

Ond yna fe ddaeth yr ergyd farwol yn yr ail hanner.

‘Rhwystredig’

Ar ddiwedd y noson, dywedodd Neil Harris ei fod e’n teimlo’n “rhwystredig” yn dilyn y golled, a’i dîm yn chweched, driphwynt yn unig ar y blaen i Derby yn y seithfed safle.

“Yn fwy na dim, dw i’n teimlo’n rhwystredig, wrth gwrs,” meddai’r rheolwr.

“Roedd y drydedd gôl jyst yn ergyd wych – eiliad o safon.

“Mae e wedi rhwydo o 45 llathen, felly chwarae teg i’r boi.

“Doedd yr elfen o lwc yn y gemau blaenorol ddim gyda ni.

“Rhaid i ni edrych arnon ni ein hunain – wnes i ddewis y tîm cywir? Nid dyma’r amser i or-ddehongli’r peth.

“Rhaid i ni symud ymlaen at ddydd Gwener a gêm anodd yn erbyn Fulham.

“Bu’n rhaid i ni weithio’n ofnadwy o galed i gyrraedd lle’r ydyn ni.

“Mae hynny’n ein hatgoffa, os nad ydyn ni’n ennill pob brwydr fach, yna dydyn ni ddim cystal â thimau eraill.

“Rhaid i ni dderbyn y peth ac aros am y canlyniadau eraill.

“Mae pythefnos o’r tymor yn weddill, felly nid dyma’r amser i ddifaru dim.”