Mae adroddiadau’n cysylltu Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, â swydd rheolwr Bristol City.

Cafodd Lee Johnson ei ddiswyddo dros y penwythnos yn dilyn y golled yn erbyn Caerdydd.

Y gred yw fod y rheolwr o Bontypridd ymhlith y ffefrynnau ar gyfer y swydd, ynghyd â’i gyd-Gymro Tony Pulis, Mark Robins ac Aitor Karanka.

Cafodd Steve Cooper ei benodi i’r swydd yn Stadiwm Liberty y llynedd yn dilyn ymadawiad Graham Potter, sydd bellach yn rheoli Brighton yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae ganddo fe ddwy flynedd yn weddill o’i gytundeb, ac mae’r Elyrch yn dal yn y ras ar gyfer y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor sydd wedi cael ei ailddechrau yn dilyn seibiant yn sgil y coronafeirws.