Bydd yr amddiffynwyr Matthew Connolly a Jazz Richards yn gadael Caerdydd pan fydd eu cytundebau yn dod i ben ddiwedd y mis.

Mae Connolly, a oedd yn chwaraewr y tymor yn 2016/16, wedi gwneud 146 o ymddangosiadau yn ystod wyth mlynedd ym mhrifddinas Cymru, tra bod chwaraewr rhyngwladol Cymru, Jazz Richards, wedi chwarae 57 o weithiau ers cyrraedd o Fulham yn 2016.

Bydd Omar Bogle, a ddechreuodd dim ond chwe gêm gynghrair ar ôl symud o Wigan am £1 miliwn, hefyd yn gadael yr Adar Gleision.

Mae Danny Ward wedi ymestyn ei gytundeb tan ddiwedd y tymor estynedig a bydd yn cynnal trafodaethau pellach dros ei ddyfodol wedi hynny.

Dywedodd datganiad ar wefan y clwb:

“Ar ran pawb ohonom yng Nghlwb Pêl-droed Caerdydd hoffem ddymuno’r gorau i Matt ar gyfer y dyfodol ac edrychwn ymlaen at ei weld yn ôl fel ein gwestai yn y dyfodol agos.

“Hoffem hefyd ddiolch i nifer o chwaraewyr eraill sy’n gadael am eu cyfraniadau i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, yn arbennig Jazz Richards, sy’n ein gadael ar ôl tri tymor o wasanaeth, ac Omar Bogle, yn dilyn ei gyfnod diweddar ar fenthyg yn yr Eredivisie gyda ADO den Haag.”