Mae pump o bêl-droedwyr Abertawe wedi llofnodi cytundebau newydd gyda’r clwb.

Roedd disgwyl i gytundebau Wayne Routledge, Nathan Dyer, Mike van der Hoorn, Kyle Naughton ac Erwin Mulder ddod i ben ar Fehefin 30.

Yn ôl rheolau’r Gynghrair Bêl-droed, fydd chwaraewyr sydd â’u cytundebau’n dod i ben ddiwedd y mis ddim yn cael chwarae am weddill y tymor oni bai bod cytundebau newydd dros dro yn eu lle am y gemau sy’n weddill.

Mae gan Abertawe chwe gêm gynghrair i’w chwarae, ac fe allen nhw gyrraedd y gemau ail gyfle wedi hynny, sy’n golygu posibilrwydd o dair gêm ychwanegol.

Mae’r cytundebau newydd yn dod i ben ar Awst 4, sef diwrnod rownd derfynol y gemau ail gyfle, a does dim sicrwydd iddyn nhw y tu hwnt i hynny ar hyn o bryd.