Leon Britton
Mae chwaraewr canol cae profiadol Abertawe, Leon Britton, wedi dweud y bydd yn ymladd am ei le yn y tîm y tymor hwn yn hytrach na symud i glwb newydd.

Roedd y chwaraewr 32 oed wedi cael ei gysylltu â Orlando City yn yr UDA a Wolves ym Mhencampwriaeth Lloegr, a hynny ar ôl colli ei le yn nhîm yr Elyrch yn ddiweddar.

Ond mynnodd Britton, sydd wedi chwarae dros 500 o gemau dros y clwb, ei fod yn barod i aros yn ne Cymru a’i fod yn hyderus ei fod yn parhau yn rhan o gynlluniau’r rheolwr Garry Monk.

“Fe siaradais i â’r rheolwr tua phythefnos yn ôl ac fe benderfynwyd mai’r peth gorau fyddai i mi aros fan hyn,” meddai Britton wrth y South Wales Evening Post.

Profiad

Mae Leon Britton wedi treulio tri chyfnod gydag Abertawe ers ymuno â’r clwb am y tro cyntaf yn 2002, ac mae wedi chwarae dros yr Elyrch ym mhob un o bedair prif gynghrair Lloegr.

Ond ar ôl anaf i’w ben-glin llynedd fe gafodd hi’n anodd ennill ei le yn ôl yn y tîm, yn enwedig ar ôl i Abertawe arwyddo Jack Cork o Southampton.

Roedd Britton ymysg yr eilyddion wrth i Abertawe drechu Newcastle 2-0, ac mae’n dweud bod y gefnogaeth gafodd gan y cefnogwyr y diwrnod hwnnw wedi rhoi “gwen ar fy ngwyneb”.

“Roedd yr ymateb gefais i wrth dwymo lan yn rhywbeth arbennig. Mae hi wedi bod anodd i mi gan mod i ddim yn siŵr beth oedd yn mynd i ddigwydd,” meddai Britton.

“Ond mae cefnogaeth y cefnogwyr yn tanlinellu’r berthynas arbennig sydd gennym ni.”