Mae amddiffynnwr Newcastle, Daryl Janmaat wedi ymddiheuro am gael ei anfon o’r cae yn yr Uwch Gynghrair yn erbyn Abertawe yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

Dywedodd Janmaat fod y cerdyn coch wedi costio’n ddrud i’w dîm wrth iddyn nhw golli o 2-0.

Cafodd Janmaat ei anfon o’r cae wedi iddo dderbyn dau gerdyn melyn yn yr hanner cyntaf.

Roedd y cyntaf am dacl ar Jefferson Montero, cyn iddo weld ail gerdyn bedair munud yn ddiweddarach am dynnu ar grys yr asgellwr cyflym.

Roedd rheolwr Newcastle, Steve McClaren yn teimlo bod penderfyniad y dyfarnwr Mike Jones yn rhy hallt, ond mae Janmaat wedi ymddiheuro am ei weithredoedd.

Dywedodd Janmaat: “Roedd yn dwp iawn a rhaid i fi ymddiheuro wrth fy nghyd-chwaraewyr, y cefnogwyr a phawb oherwydd mae ceisio ennill gêm gyda 10 dyn yn anodd iawn.

“Roedd y cerdyn melyn cyntaf yn amlwg. Gyda’r ail un, fe gollais i’r bêl, fe redodd e [Montero] heibio i fi ac mewn eiliad, fe wnes i gyffwrdd ag e.

“Fe wnes i ei dynnu’n ôl ac roedd hynny’n dwp.

“Gydag 11 dyn yn Abertawe mae e eisoes yn anodd ond gyda 10 dyn, mae’n gwneud y peth bron yn amhosib.

“Ond wnaethon ni ddim rhoi’r gorau iddi, ac fe wnaeth gweddill y tîm daflu popeth iddi, ond roedd yn ornest siomedig.”

Mae rheolwr Abertawe, Garry Monk wedi ffraeo gyda rheolwr Newcastle, Steve McClaren wedi iddo gyhuddo Newcastle o ddefnyddio’r dacteg o gicio er mwyn rhwystro Montero.

Mae McClaren wedi wfftio’r honiadau.