Mae tîm pêl-rwyd Cymru’n dathlu ar ôl cyrraedd eu safle uchaf yng Nghwpan y Byd ers 24 o flynyddoedd.

Gorffennodd Cymru’n seithfed ar ôl trechu Wganda o 64-41 yn Sydney.

Awstralia gipiodd y gwpan yn y pen draw.

Y tro diwethaf i Gymru gyrraedd y seithfed safle oedd 1991 – yn Sydney bryd hynny hefyd.

Yn ystod y gystadleuaeth, fe wnaeth Cymru guro Wganda, Ffiji a Zambia, gan gyrraedd y cam nesaf yn un o’r wyth o brif ddetholion.

Ond fe gollon nhw yn erbyn Lloegr, Awstralia a De Affrica.

Ar ei thudalen Twitter, dywedodd pennaeth Chwaraeon Cymru, Laura McAllister: “Llongyfarchiadau enfawr i bawb.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Perfformiad Elit Chwaraeon Cymru, Brian Davies: “Llongyfarchiadau i’r tim, hyfforddwyr, staff cynorthwyol a chefnogwyr.”